Emotional Health and Wellbeing Service Manager - Newport Permanent position with funding to October 2026 Hours: 3 days (21 hours) or 4 days (28 hours) Salary: £20,902.25 (3 days) / £27,869.66 (4 days) This role will work from home while the delivery site is secured in Newport. Are you passionate about early help, emotional health and wellbeing support for children. We are setting up new emotional health and wellbeing service in Newport for children aged 8-13 years old. We are looking for an experienced Emotional Health and Wellbeing Service Manager with a strong knowledge of local services and organization's in Newport and experience working in collaboration with others in the sector. You will provide service leadership and local management for the BBC Children in Need “A Million and Me” Space to Grow programme in Newport ensuring the delivery of a high quality and safe service. As this is a new service it is an exciting opportunity to feed in and shape it from the start. We view diversity and inclusion as fundamental to achieving social change. To tackle the complex issues facing children, we need access to diverse talent, perspectives, experiences and working practices. Applications from diverse backgrounds and communities are encouraged and we have policies to support flexible, inclusive and accessible employment. Skills -The ability to speak Welsh is desirable -To supervise, empower and manage the performance of staff to deliver the best they can for children who are struggling with their emotional wellbeing and effectively support the child's parents/carers. -Strong ability to think creatively and respond to new, complex, or challenging situations -Experience of leadership and management in an Emotional Health and Wellbeing setting -The ability to act on own initiative, supervise others and co-ordinate work. -Community outreach: Experience engaging families who are not represented in EHWB and mental health settings and providing accessible support in community settings. -Competent use of IT programmes. -Can demonstrate lone working experience and aptitude. -Confidence to deliver Emotional Health and Wellbeing Resilience Sessions /Workshops in schools Work-based Knowledge -Excellent understanding of common mental and emotional health issues that children face, informed by current research and evidence bases. -Clinical insight into emotional health and mental health pathways -Appreciation and awareness of issues facing young people who are not represented in early help and crisis support. -A working knowledge of current mental health support agencies in the local area. -Understanding of how to place children and parents and carers at the heart of the service, to enable them to have a voice and influence the work. -An understanding of current legislation, policy, procedures, and issues relating to safeguarding young people. -Experience of leadership within an emotional health service. -Track record of working with external stakeholders to deliver better outcomes for children. -Experience of working with a range of partners (both statutory and wider) Emotional Health and Wellbeing services opening hours supports the needs of the communities in which we work, and therefore there are elements of unsociable hours - this may include evenings, weekends, and bank holidays Benefits: 28 days holiday per year pro-rata (plus Bank holidays), Family-friendly policies, Cycle to work scheme, Pension- employee contributions of up to 8%, Death in service benefit, Discounted health scheme, Free confidential counselling service (further benefit details can be found in the job pack). The closing date for applications is midnight 5th January 2025. If after 14 days, we have received enough applications we may close this vacancy from the 24/12/24 onwards. Provisional Interview date 17/01/25 The Children's Society is committed to safeguarding and protecting the children and young people that we work with. As such, all posts are subject to a safer recruitment process, including the disclosure of criminal records and vetting checks. We ensure that we have a range of policies and procedures in place which promote safeguarding and safer working practices across our services. Therefore, candidates applying for work in our Youth Impact Domain will be required to complete an account of their full work history. IN1 About the Space to grow Programme Space to grow is a nationwide partnership between The Children's Society in England and Wales, Children First in Scotland, and MACS in Northern Ireland. The programme is funded by a £1 million grant from funding partners BBC Children in Need, The Health Foundation, and Impact on Urban Health, their single biggest award through an open funding programme, called the 'Million and Me Award'. To amplify and increase our impact and to reach as many children as possible, The Children's Society is investing a further £1million meaning we have £2million over the next two years to truly change the lives of children. The funding is going to create a early support programme which will support children aged 8 - 13 years-old across England, Wales, Northern Ireland and Scotland with a strong focus on those children and families who are not represented in emotional health and well being and mental health services. Our ambition is to support children and their families as early as possible to help prevent children developing and experiencing and mental health difficulties as they become teenagers. The programme will offer one-to-one time-limited wellbeing interventions to children and their families. We will utilise solution-focussed approaches to provide children and their families with a toolbox of strategies to help support the child's emotional health and wellbeing and manage their feelings. The direct work with children and families will be supported by digital interventions, through the use of our own wellbeing app “Me Time”. Rheolwr Gwasanaeth Iechyd a Lles Emosiynol - Casnewydd Swydd barhaol gyda chyllid hyd at fis Hydref 2026 Oriau: 3 diwrnod neu 4 diwrnod Cyflog: CN £20,902 (3 diwrnod) / £27,870 (4 diwrnod) Byddwch yn gweithio gartref tra bod y safle darparu yn cael ei ddiogelu Ydych chi'n angerddol am gymorth cynnar, cymorth iechyd a lles emosiynol i blant? Rydym yn sefydlu gwasanaeth iechyd a lles emosiynol newydd yn Casnewydd ar gyfer plant 8-13 oed ac yn chwilio am Reolwr Gwasanaeth Iechyd a Lles Emosiynol profiadol sydd â gwybodaeth gadarn am wasanaethau a sefydliadau lleol yn Casnewydd a phrofiad o gydweithio ag eraill yn y sector. Byddwch yn darparu arweiniad gwasanaeth a rheolaeth leol ar gyfer rhaglen “Miliwn a Fi” BBC Plant Mewn Angen yn Casnewydd gan sicrhau bod gwasanaeth diogel o ansawdd uchel yn cael ei ddarparu. Gan fod hwn yn wasanaeth newydd mae'n gyfle cyffrous i gyfrannu ato a'i siapio o'r dechrau. Rydym yn ystyried bod amrywiaeth a chynhwysiant yn hanfodol i gyflawni newid cymdeithasol. Er mwyn mynd i'r afael â'r materion cymhleth sy'n wynebu plant, mae angen mynediad at dalent, safbwyntiau, profiadau ac arferion gwaith amrywiol. Anogir ceisiadau o gefndiroedd a chymunedau amrywiol ac mae gennym bolisïau i gefnogi cyflogaeth hyblyg, gynhwysol a hygyrch. Sgiliau -Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn dymunol -Goruchwylio, grymuso a rheoli perfformiad staff i gyflawni'r gorau y gallant i blant sy'n cael trafferth gyda'u lles emosiynol a chefnogi rhieni/gofalwyr y plentyn yn effeithiol. -Gallu cryf i feddwl yn greadigol ac ymateb i sefyllfaoedd newydd, cymhleth neu heriol. -Profiad o arwain a rheoli mewn lleoliad Iechyd a Lles Emosiynol. -Y gallu i weithredu ar eich liwt eich hun, goruchwylio eraill a chydlynu gwaith. -Allgymorth cymunedol: Profiad o ymgysylltu â theuluoedd nad ydynt yn cael eu cynrychioli mewn lleoliadau Iechyd a Lles Emosiynol ac iechyd meddwl a darparu cymorth hygyrch mewn lleoliadau cymunedol. -Defnydd cymwys o raglenni TG. -Yn gallu dangos profiad a gallu i weithio'n unigol. -Hyder i ddarparu Sesiynau / Gweithdai Iechyd a Lles Emosiynol mewn ysgolion. Gwybodaeth Seiliedig ar Waith -Dealltwriaeth ragorol o faterion iechyd meddwl ac emosiynol cyffredin y mae plant yn eu hwynebu, ar sail ymchwil gyfredol a seiliau tystiolaeth. -Dealltwriaeth glinigol o lwybrau iechyd emosiynol ac iechyd meddwl. -Gwerthfawrogiad ac ymwybyddiaeth o faterion sy'n wynebu pobl ifanc nad ydynt yn cael eu cynrychioli mewn cymorth cynnar a chymorth argyfwng. -Gwybodaeth weithredol o asiantaethau cymorth iechyd meddwl cyfredol yn yr ardal leol. -Deall sut i osod plant a rhieni a gofalwyr wrth wraidd y gwasanaeth, i'w galluogi i gael llais a dylanwadu ar y gwaith. -Deall deddfwriaeth, polisi, gweithdrefnau a phroblemau cyfredol sy'n ymwneud â diogelu pobl ifanc. -Profiad o arwain mewn gwasanaeth iechyd emosiynol. -Hanes o weithio gyda rhanddeiliaid allanol i sicrhau gwell canlyniadau i blant. -Profiad o weithio gydag amrywiaeth o bartneriaid (statudol ac ehangach) Mae oriau agor gwasanaethau Iechyd a Lles Emosiynol yn cefnogi anghenion y cymunedau yr ydym yn gweithio ynddynt, ac felly mae yna elfennau o oriau anghymdeithasol - gall hyn gynnwys gyda'r nos, penwythnosau, a gwyliau banc. Buddion: 28 diwrnod o wyliau y flwyddyn pro-rata (yn ogystal â gwyliau banc), polisïau sy'n ystyriol o deuluoedd, Cynllun beicio i'r gwaith, Pensiwn - cyfraniadau gweithwyr o hyd at 8%, Buddion marwolaeth mewn gwasanaeth, Cynllun iechyd gostyngol, gwasanaeth cwnsela cyfrinachol am ddim (mae rhagor o fanylion am fuddion yn y pecyn swydd). Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos ar 05/01/2025. Os byddwn wedi derbyn digon o geisiadau ar ôl 14 diwrnod, efallai y byddwn yn cau'r swydd wag hon o 24/12/24 ymlaen. Dyddiad Dros Dro Cyfweliad 17/01/25 Mae Cymdeithas y Plant wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn y plant a'r bobl ifanc rydym yn gweithio gyda nhw. O'r herwydd, mae pob swydd yn destun proses recriwtio fwy diogel, gan gynnwys datgelu cofnodion troseddol a gwiriadau fetio. Rydym yn sicrhau bod gennym gasgliad o bolisïau a gweithdrefnau ar waith sy'n hyrwyddo arferion gwaith diogelu a mwy diogel ar draws ein gwasanaethau. Felly, bydd gofyn i ymgeiswyr sy'n gwneud cais am waith yn ein Parth Effaith Ieuenctid gwblhau cyfrif o'u hanes gwaith llawn. Ynglyn â'r Rhaglen Lle i Dyfu Mae Lle i Dyfu yn bartneriaeth genedlaethol rhwng Cymdeithas y Plant yng Nghymru a Lloegr, Children First yn yr Alban, a MACS yng Ngogledd Iwerddon. Mae'r rhaglen yn cael ei hariannu gan grant o £1 miliwn gan bartneriaid ariannu Plant Mewn Angen y BBC, y Sefydliad Iechyd, ac Impact on Urban Health, eu dyfarniad unigol mwyaf trwy raglen ariannu agored, o'r enw 'Dyfarniad Miliwn a Fi'. Er mwyn ehangu a chynyddu ein heffaith ac i gyrraedd cymaint o blant â phosibl, mae Cymdeithas y Plant yn buddsoddi £1 miliwn arall sy'n golygu bod gennym £2 filiwn dros y ddwy flynedd nesaf i newid bywydau plant yn wirioneddol. Mae'r cyllid yn mynd i greu rhaglen cymorth cynnar a fydd yn cefnogi plant 8 - 13 oed ledled Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban gyda ffocws cryf ar y plant a'r teuluoedd hynny nad ydynt yn cael eu cynrychioli mewn gwasanaethau iechyd a lles emosiynol ac iechyd meddwl. Ein huchelgais yw cefnogi plant a'u teuluoedd cyn gynted â phosibl i helpu i atal plant rhag datblygu a phrofi ac anawsterau iechyd meddwl wrth iddynt gyrraedd eu harddegau. Bydd y rhaglen yn cynnig ymyriadau lles un-i-un sy'n gyfyngedig o ran amser i blant a'u teuluoedd. Byddwn yn defnyddio dulliau sy'n canolbwyntio ar atebion i ddarparu blwch cymorth o strategaethau i blant a'u teuluoedd i helpu i gefnogi iechyd a lles emosiynol y plentyn a rheoli ei deimladau. Bydd y gwaith uniongyrchol gyda phlant a theuluoedd yn cael ei gefnogi gan ymyriadau digidol, trwy ddefnyddio ein ap lles ein hunain "Me Time".