Am Y Gwasanaeth Mae Cyngor Caerdydd yn chwilio am Brif Weithiwr Cymdeithasol i weithio yn bennaf mewn rôl oruchwyliwr, ynghyd â rheoli achosion o lwyth gwaith cymhleth bach, o fewn un o'n Timau Ardal. Byddai'r ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei gefnogi gan ei Reolwr Tîm a'r Rheolwr Gweithredol. Byddai’n gweithio o fewn tîm o weithwyr cymdeithasol, cynorthwywyr gwaith cymdeithasol a chynorthwywyr adnoddau (cymorth gweinyddol ychwanegol). Am Y Swydd Fel y Prif Weithiwr Cymdeithasol cewch gyfle i ddatblygu arferion eraill o fewn y tîm drwy gydweithio a goruchwylio tra hefyd yn arwain drwy esiampl fel deiliad achos ar gyfer y plant hynny ag anghenion mwy cymhleth sydd angen arbenigedd ymarferydd profiadol a medrus. Manteision a gynigir Mae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o ddinasoedd gorau'r DU i fyw ynddynt felly ymunwch â ni i weld beth y gallwn ei gynnig. Hawliad gwyliau blynyddol helaeth yn dechrau gyda 28 diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 33 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd gydag opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol o hyd at 10 diwrnod. Mae ein diwylliant gweithio yn hyblyg, gyda chynllun oriau hyblyg yn eich galluogi i weithio i amserlen sy'n addas i chi. Gweithio hybrid – eich cefnogi i gyflawni eich rôl yn hyblyg boed ar ymweliadau, o swyddfa neu eich cartref. Mynediad i Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg sy'n rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), sy'n cynnig cynllun pensiwn diogel a hyblyg, dibynadwy, ar gyfer tawelwch meddwl. Dyma ychydig o'r hyn sydd gan Gaerdydd i'w gynnig, edrychwch ar ein gwefan Gwaith Cymdeithasol i gael rhagor o wybodaeth am ein holl fanteision a chlywed gan rai o'n gweithwyr cymdeithasol, sy’n canu clod Caerdydd. Team Location Mae timau Diogelu a Phlant Caerdydd bellach wedi'u lleoli mewn 3 ardal ar draws y ddinas, yn Llaneirwg yn y Dwyrain, y Tyllgoed yn y Gogledd a Bae Caerdydd yn y De gan alluogi staff i fod wedi'u lleoli yn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. O fewn ardal ddaearyddol y tîm, byddwch yn cefnogi plant a phobl ifanc trwy gynnal asesiadau cadarn, cynllunio sy'n canolbwyntio ar ddeilliannau ac ymyriadau effeithiol i'w cefnogi wrth gyflawni deilliannau cadarnhaol o fewn eu teuluoedd a'u cymunedau. Gan weithio o fewn dull ymarfer adferol, byddwch yn gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd a chydweithwyr amlasiantaethol wrth ymyrryd i fynd i'r afael â'r pryderon sy'n codi a’r anawsterau sy’n sail iddynt. Dyma gyfle cyffrous i ymuno â gwasanaeth sy’n rhoi’r unigolyn wrth wraidd ein gwaith. Mae’r timau’n gweithio yn ôl dull sy’n seiliedig ar gryfderau (Arwyddion Diogelwch) er mwyn bodloni anghenion pobl ifanc a’u teuluoedd. Beth Rydym Ei Eisiau Gennych Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus oruchwylio pod o gynorthwywyr gwaith cymdeithasol a staff gwaith cymdeithasol llai profiadol. Mae Cyngor Caerdydd yn chwilio am unigolyn sy'n gallu cefnogi staff, gan sicrhau bod ffocws amgylchedd cefnogol a chadarnhaol yn cael ei feithrin o fewn y tîm. Byddwch yn gyfrifol am gynnal goruchwyliaeth fisol, cadeirio cyfarfodydd strategaeth a mynychu ymweliadau ar y cyd. Bydd disgwyl i chi ddarparu goruchwyliaeth reolaidd o gynlluniau gofal y Bobl Ifanc trwy sicrwydd ansawdd cadarn i'r gwaith Cynorthwywyr Gwaith Cymdeithasol a phresenoldeb mewn cyfarfodydd perthnasol megis Adolygiadau Plant sy’n Derbyn Gofal. Er nad yw’r rôl yn ymwneud ag achosion penodol, lle mae pryderon yn gwaethygu mewn perthynas â Phobl Ifanc a ddyrannwyd i un o'ch goruchwylwyr, bydd disgwyl i chi ymgymryd â dyraniad nes bod risgiau wedi lleihau i alluogi adleoli i'r Cynorthwy-ydd Gwaith Cymdeithasol neu’r Gweithiwr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso. Gwybodaeth Ychwanegol Yn weithredol o 1 Ebrill 2024, bydd y rôl hon yn cael Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £5,000 (cyfwerth ag amser llawn). (£48,693 - £51,731) Adolygir y taliad hwn bob 12 mis. Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol. Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu. Yn rhan o’r swydd hon, rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, cysylltwch â Laura.white3caerdydd.gov.uk am drafodaeth. Sylwer nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan: Gwybodaeth bwysig Canllaw ar Wneud Cais Ymgeisio am swyddi gyda ni Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol Gwybodaeth Ychwanegol Siarter Cyflogeion Recriwtio Cyn-Droseddwyr Hysbysiad Preifatrwydd