Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd. Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda’r brifysgol. Ymgeiswyr Mewnol yn Unig – Swyddog Data, Systemau a Gwybodaeth Cyfle cyffrous i ymuno a thîm Taith fel Swyddog Data, Systemau a Gwybodaeth. Fydd y swydd yn cefnogi a datblygu gofynion adrodd ar wybodaeth reoli Taith ac yn arwain ar gynnal a chadw, datblygu, gwella ac adolygu'r gronfa ddata a'r offer adrodd a ddatblygwyd ac a fabwysiadwyd gan raglen Taith. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am fonitro, coladu, dadansoddi a chyflwyno data'r rhaglen, gan sicrhau ei fod yn gywir ac yn bodloni gofynion adrodd Gweithrediaeth Rhaglen Taith, International Learning Exchange Programme Ltd a'i lywodraeth, Llywodraeth Cymru ac ar gyfer unrhyw gynulleidfaoedd mewnol ac allanol eraill yn ddigonol. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad amlwg o ddefnyddio ystod o becynnau meddalwedd i ddatblygu a chynnal adroddiadau corfforaethol cymhleth a darparu cymorth technegol gan gynnwys datrys problemau ar lefel adroddiadau. Bydd gennych y gallu i gyfathrebu gwybodaeth gysyniadol fanwl a chymhleth yn effeithiol ac yn broffesiynol ag ystod eang o bobl, gan gynnwys sgiliau cyflwyno rhagorol, gyda'r gallu i gyfleu gwybodaeth i gynulleidfa anarbenigol trwy fformatau clir a hygyrch. Dylai ymgeiswyr fod wedi cael addysg i safon lefel Gradd/NVQ 4 neu gydag aelodaeth broffesiynol gyfwerth mewn disgyblaeth berthnasol / profiad mewn rôl Data. Am fwy o wybodaeth am Taith ewch i’n wefan: Hafan - Taith Fydd yn swydd llawn amser, 35 awr yr wythnos, gweithio hybrid ac wedi ei lleoli yng Nghaerdydd. Swydd amser llawn am gyfnod penodol tan 30 Medi 2026 yw hon. Cyflog: £33,232 to £35,880 y flwyddyn (Gradd 5) Byddem yn falch o ystyried ceisiadau mewnol neu allanol o ran secondiad a gallwn roi cyngor ar sut y gall hyn ddigwydd. Dyddiad cau: Dydd Iau, 19 Rhagfyr 2024 Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion. Sylwer bod Prifysgol Caerdydd yn cadw’r hawl i roi’r gorau i hysbysebu’r swydd hon yn gynnar, os daw digon o geisiadau i law. Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gallwn wneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o wahanol gefndiroedd sydd am greu prifysgol sy'n ceisio cyflawni ein rhwymedigaeth gymdeithasol, ddiwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru, a'r byd. Er mwyn helpu ein gweithwyr i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu’r swydd. Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Dyletswyddau Allweddol Cydgysylltu â chydweithwyr tîm Taith i ddeall eu hanghenion gwybodaeth a datblygu gofynion adrodd gwybodaeth reoli manwl. Cefnogi effeithlonrwydd, ansawdd, cywirdeb a diogelwch adroddiadau gwybodaeth reoli a dulliau adrodd Taith. Adolygu a chynnal dogfennau bwrdd gwaith ategol, ffurflenni a Gweithdrefnau Gweithredu Safonol perthnasol, cyfredol. Cydgysylltu â pherchnogion prosesau busnes perthnasol i sicrhau bod prosesau casglu a storio data Taith yn darparu data priodol i gefnogi anghenion gwybodaeth reoli’r rhaglen. Gweithio’n agos gyda chymorth TG y Brifysgol i ddatrys gofynion defnyddwyr a sicrhau bod adalw data o becynnau meddalwedd a mecanweithiau adrodd yn ymarferol ac yn bodloni anghenion Taith. Cynorthwyo cydweithwyr perthnasol yn y Gwasanaethau TG i gynnal profion defnyddwyr fel y bo'n briodol i gefnogi'r gwaith o gynnal a chadw systemau ar ystod o wahanol becynnau meddalwedd, o bryd i'w gilydd yn unol â gofynion y system. Rhannu gwybodaeth a hyfforddi defnyddwyr yn y tîm Taith ar adroddiadau a meddalwedd adrodd er mwyn eu defnyddio er eu mantais orau. Cefnogi gwelliannau a datblygiadau yn y meddalwedd y mae tîm Taith yn ei ddefnyddio e.e. Jotform. Cefnogi Uwch Dîm Arweinyddiaeth Taith i wella galluedd gwybodaeth Taith ac ansawdd templedi adroddiadau gwybodaeth rheoli'r rhaglen. O fewn eich maes cymhwysedd eich hun, darparu ymatebion cywir i geisiadau am gymorth drwy, er enghraifft: wneud addasiadau i systemau, gwelliannau, trin data, ad-drefnu systemau, newid gweithdrefnau gweithredu, cynhyrchu dogfennaeth ychwanegol, neu uwchgyfeirio ceisiadau i gydweithwyr yn y Gwasanaeth TG a thîm Taith. Cymryd rhan mewn gweithgorau penodol, gan gynnwys Gweithwyr Proffesiynol Data Caerdydd. Bod yn rhagweithiol o ran datblygu sgiliau a gwybodaeth sy'n ymwneud ag offer, technegau ac arfer da dadansoddi data. Gweithio gyda thîm Grantiau a Chyllid Taith i gyrchu'r ystod o ddata sydd ar gael, a chynghori ar fanylebau ar gyfer gwybodaeth a adeiladwyd yn bwrpasol. Ymgymryd ag ymchwil a dadansoddiadau pwrpasol mewn ymateb i geisiadau gan bartïon mewnol ac allanol. Swyddogaethau Adrodd Cynhyrchu adroddiadau rheolaidd ar gyfer ystod o wahanol gynulleidfaoedd gan gynnwys Gweithrediaeth Rhaglen Taith, Bwrdd ILEP Ltd, y Pwyllgor Archwilio, Sicrwydd a Risg, Llywodraeth Cymru ac unrhyw bartïon mewnol ac allanol eraill. Monitro ac adrodd yn gyson ar broblemau perfformiad Derbynyddion Grant i Weithrediaeth Rhaglen Taith. Cyflwyno canfyddiadau dadansoddol i Weithrediaeth Rhaglen Taith i helpu i lunio cynlluniau cyflawni rhaglenni yn y dyfodol. Ymateb i geisiadau am wybodaeth gan Weithrediaeth Rhaglen Taith, Bwrdd ILEP Ltd, y Pwyllgor Archwilio, Sicrwydd a Risg, Llywodraeth Cymru ac unrhyw bartïon mewnol ac allanol eraill. Cyfrannu at unrhyw brosesau gwerthuso allanol gan ddefnyddio sgiliau dadansoddol i gynhyrchu adroddiadau lefel uchel a mynd i'r afael ag unrhyw ymholiadau gan werthuswyr allanol. Dyletswyddau Cyffredinol Sicrhau bod problemau’n cael eu rheoli yn unol â safonau a phrosesau y cytunwyd arnynt, a bod gweithdrefnau uwchgyfeirio yn cael eu dilyn, gan ymateb i broblemau mewn modd amserol. Cymryd rhan mewn prosiectau fel y bo'n briodol, rheoli, cynllunio a threfnu gweithgareddau a monitro cynnydd. Sefydlu perthnasau â chysylltiadau allweddol i sicrhau bod amcanion y rôl yn cael eu bodloni, gan ddatblygu cysylltiadau cyfathrebu priodol â rhanddeiliaid mewnol ac allanol yn ôl yr angen. Sicrhau bod dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrinachedd yn cael ei gymhwyso wrth gyflawni pob dyletswydd. Cydymffurfio â pholisïau'r Brifysgol ar Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth. Cefnogi cynhyrchu canfyddiadau dadansoddol cynhwysfawr mewn amrywiaeth o fformatau (gan gynnwys adroddiadau ysgrifenedig), gan dargedu cynulleidfaoedd gwahanol i helpu i gyfleu negeseuon a hysbysu polisi a phenderfyniadau strategol Taith. Sicrhau cydymffurfiad â gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol mewn perthynas â pholisïau, gweithdrefnau a chodau cydraddoldeb ac amrywiaeth, diogelu data, hawlfraint a thrwyddedu, diogelwch, ariannol ac eraill y Brifysgol fel y bo'n briodol. Bod yn rhagweithiol o ran datblygu sgiliau a gwybodaeth sy'n ymwneud ag offer, technegau ac arfer da dadansoddi data. Perfformio dyletswyddau eraill o bryd i'w gilydd nad ydynt wedi'u cynnwys uchod, ond a fydd yn gyson â'r rôl. Meini Prawf Hanfodol Gradd/NVQ 4 neu aelodaeth broffesiynol gyfwerth mewn disgyblaeth berthnasol / profiad mewn rôl Data. Sgiliau TG rhagorol gan gynnwys Microsoft Excel. Profiad amlwg o ddefnyddio ystod o becynnau meddalwedd i ddatblygu a chynnal adroddiadau corfforaethol cymhleth a darparu cymorth technegol gan gynnwys datrys problemau ar lefel adroddiadau. Y gallu i gyfathrebu gwybodaeth gysyniadol fanwl a chymhleth yn effeithiol ac yn broffesiynol ag ystod eang o bobl, gan gynnwys sgiliau cyflwyno rhagorol, gyda'r gallu i gyfleu gwybodaeth i gynulleidfa anarbenigol trwy fformatau clir a hygyrch. Y gallu i ddogfennu datrysiadau technegol cymhleth mewn fframwaith rhesymegol a chlir y gall eraill ei ddeall yn hawdd. Sgiliau rheoli perthynas rhagorol a phrofedig gyda phrofiad o reoli gofynion rhanddeiliaid. Tystiolaeth o allu i archwilio anghenion cwsmeriaid gan gynnwys cyfrannu'n weithredol mewn timau a grwpiau i addasu'r gwasanaeth yn unol â hynny i sicrhau bod gwasanaeth o safon yn cael ei ddarparu. Tystiolaeth o allu i ddatrys problemau eang gan ddefnyddio menter a chreadigedd; nodi a chynnig atebion ymarferol a datrys problemau gydag ystod o ganlyniadau posib. Tystiolaeth o allu i weithio heb oruchwyliaeth i derfynau amser, cynllunio a gosod blaenoriaethau ar gyfer eich gwaith eich hun a gwaith eraill a monitro cynnydd. Profiad amlwg o ddadansoddi, trin a deall data a chronfeydd data a dealltwriaeth o sut i ddelweddu a dehongli data i greu sylfaen dystiolaeth. Meini Prawf Dymunol Gwybodaeth am ddatblygiadau allweddol o fewn dadansoddi data. Profiad o weithio mewn amgylchedd Addysg Uwch. Profiad o weithio o fewn timau prosiect. Rhugl yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar.