Dyletswyddau’r Swydd:
Bydd yn atebol i Reolwr Cenedlaethol Cymraeg i Blant trwy Brif Swyddog am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:
· Cydlynu, trefnu a chynnal isafswm o 6 o grwpiau cefnogi i rieni a babis yn y gymuned yn wythnosol.
· Meithrin perthynas gyda phartneriaid (yn cynnwys Dechrau’n Deg) a amlinellir yn Strategaeth Partneriaethau Cymraeg i Blant gyda phwyslais ar y sector iechyd (mewn cydweithrediad â’r Prif Swyddog perthnasol).
· Canolbwyntio ar ymgorffori’n llwyr yn y gymuned leol a dod i adnabod y gwahanol gymdeithasau sy’n bodoli sy’n cynnwys darpar rieni neu rieni newydd a’u teuluoedd.
· Gweithio o fewn y gymuned i rannu gwybodaeth gyda theuluoedd gan wneud hynny’n gydlynus gydag amryw o bartneriaid.
· Cydweithio’n agos gyda thimoedd taleithiol Mudiad Meithrin er mwyn rhannu gwybodaeth leol a sicrhau bod y gwaith yn cydblethu ac yn arwain at gynllunio strategol ystyrlon i’r plentyn ddilyn y llwybr o enedigaeth i gylch Ti a Fi, i Gylch Meithrin ac yna i addysg Gymraeg.
· Meithrin perthynas gydag arweinyddion Cylchoedd Ti a Fi, Cylchoedd Meithrin ac ysgolion Cymraeg /dwy ffrwd leol.
· Codi ymwybyddiaeth o fuddion addysg Gymraeg lleol
· Darparu gwybodaeth a pharatoi adroddiadau (ar lafar ac yn ysgrifenedig) at bwrpas cynllunio strategol ar lefel lleol a chenedlaethol.
· Mynychu cyfarfodydd tîm yn dymhorol a chyfarfodydd eraill yn ôl y gofyn.
· Manteisio ar gyfleoedd i fynychu hyfforddiant proffesiynol parhaus a rhannu arfer dda pan fo’n berthnasol.
· Cadw cofnod manwl o’r gwaith a chyflwyno adroddiad misol.
· Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth Cymraeg i Blant yn ôl cyfarwyddyd y Rheolwr Cenedlaethol neu Brif Weithredwr.
· Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Proud member of the Disability Confident employer scheme
Disability Confident
About Disability Confident
A Disability Confident employer will generally offer an interview to any applicant that declares they have a disability and meets the minimum criteria for the job as defined by the employer. It is important to note that in certain recruitment situations such as high-volume, seasonal and high-peak times, the employer may wish to limit the overall numbers of interviews offered to both disabled people and non-disabled people. For more details please go to Disability Confident .