Contents Location About the job Benefits Things you need to know Apply and further information Location Cardiff, Mold, Swansea About the job Job summary Crynodeb or swydd Fel erlynydd y goron, rydych wedich lleoli yn y llys ynadon, yn gweithio gyda thimau erlyn i adolygu a chyflwyno tystiolaeth mewn achosion syn amrywio o ymosodiad cyffredin i droseddau cyffuriau. Swydd erlynydd y goron yw ein rôl cyfreithiwr lefel mynediad, maen ddelfrydol os ydych chin gyfreithiwr sydd newydd gymhwyso neu os nad oes gennych brofiad o gyfraith droseddol. Byddwch yn cael cyfoeth o brofiad yn y llys troseddol, gan ddatblygu eich gwybodaeth gyfreithiol ach gyrfa ymhellach. I ddechrau, rydych yn gweithio ar achosion mwy syml ond dylech symud ymlaen yn gyflym i ddelio â gwaith achos mwy difrifol. Ar ôl cwblhau eich hyfforddiant erlynwyr y goron, gallwch gynghorir heddlu ac ymchwilwyr eraill (ac eithrio cyngor cyn cyhuddo statudol), gwneud gwaith eiriolaeth, adolygu a pharatoi crynodebau achosion a materion neillffordd a glywir yn y llys ynadon. Byddwch yn mynychu'r llys yn bersonol am y rhan fwyaf och wythnos waith, gan gynrychioli Gwasanaeth Erlyn y Goron ar y rheng flaen, gan gydweithion agos gyda chydweithwyr ac asiantaethau cyfiawnder troseddol eraill, gan gynnwys yr heddlu ar farnwriaeth. Rydych yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o gynnal hyder y cyhoedd yn ein gwaith. Byddwch yn elwa o gyfnod cynefino strwythuredig, cynllun hyfforddiant pedwar mis, ynghyd â chyfleoedd i gysgodi cydweithwyr ar draws y sefydliad. Ar ôl i chi gael rhagor o brofiad, mae gennych opsiynau i symud ymlaen i rolau uwch erlynydd y goron, eiriolwr y goron a rheolwr cyfreithiol. Dysgwch beth mae ein herlynwyr y goron yn ei ddweud am weithio yng Ngwasanaeth Erlynwyr y Goron yn cps.gov.uk/careers/prosecutor. Job description Eich rolau ach cyfrifoldebau: Paratoi a chyflwyno achosion ar gyfer eu herlyn yn y llys ynadon. Cynghorir heddlu ac ymchwilwyr eraill ar waith achos mewn ystod eang o droseddau diannod yn unig a rhai troseddau neillffordd. Penderfynu, ar sail tystiolaeth, a ddylid erlyn neu roir gorau i erlyn mewn materion a wrandewir yn y llys ynadon. Egluro ein penderfyniadaun glir wrth randdeiliaid gan gynnwys ynadon, bargyfreithwyr, dioddefwyr, tystion ar heddlu. Gweithion effeithiol fel rhan o dîm aml-sgiliau. Mae dogfen disgrifiad swydd fanylach ynghlwm wrth yr hysbyseb hon. Person specification Rhaid i chi fod yn gyfreithiwr cymwys syn ymarfer Rhaid i chi ddangos eich ymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus, i wneud gwahaniaeth ir cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac i werthoedd Gwasanaeth Erlyn y Goron Rydych chin canolbwyntio ar ddatblygiad personol a datblygiad gyrfa Qualifications Yn meddu ar gymhwyster cyfreithiol: Rhaid i chi fod yn gyfreithiwr neun fargyfreithiwr cymwysedig syn meddu ar Dystysgrif Ymarfer ddilys ar gyfer Cymru a Lloegr. Academaidd: Rhaid i chi fod wedi gwneud gradd yn y gyfraith, Arholiad Proffesiynol Cyffredin a/neu Ddiploma Graddedig yn y Gyfraith. Proffesiynol: Rhaid i chi fod wedi cwblhau Cwrs Ymarfer Cyfreithiol, Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr neu Gwrs Hyfforddiant Proffesiynol y Bar ar tymor prawf ar contract hyfforddiant perthnasol neu wedi cael eich eithrion llawn gan y corff rheoleiddio proffesiynol perthnasol, naill air Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr neu Fwrdd Safonaur Bar. neu CILEx: Rhaid i chi fod yn Gymrawd CILEx ac yn Eiriolwr/Ymgyfreithiwr CILEx syn dal y tair tystysgrif eiriolaeth syn rhoi cymhwyster cyffredinol i chi o fewn ystyr a.71 (3) (c) Deddf Llysoedd a Gwasanaethau Cyfreithiol 1990. Rhaid bod gennych hawl i ymddangos mewn perthynas ag unrhyw ddosbarth o achosion mewn unrhyw ran or Uwch Lysoedd, neu bob achos mewn llysoedd sirol neu lysoedd ynadon er mwyn bodlonir gofynion ar gyfer Erlynydd y Goron a bennir gan adran 1 Deddf Erlyn Troseddau 1985. Os nad oes gennych y cymhwyster CILEx hwn, nid ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd hon. Os nad ydych yn siŵr a ydych wedi cymhwyso drwy CILEx, cysylltwch â ni i gael gwybod a ydych yn gymwys ar gyfer y swydd hon. Os byddwch yn gwneud cais ac os canfyddir nad ydych yn meddu ar unrhyw un or uchod, bydd unrhyw gynnig cyflogaeth yn cael ei dynnun ôl, neu bydd y contract yn cael ei derfynu. Ni dderbynnir cymwysterau cyfwerth. Os nad ydych chin siŵr a ydych chin gymwys ai peidio, cysylltwch â NationalLawyerRecruitmentcps.gov.uk Rhaid bodlonir meini prawf cymhwysedd erbyn dydd Llun 17 Mawrth 2024. Os ydych yn gallu cael Tystysgrif Ymarfer ddilys a'ch bod wedi cymhwyso'n llawn erbyn y dyddiad hwn, rydych yn gymwys i wneud cais. Behaviours We'll assess you against these behaviours during the selection process: Making Effective Decisions Communicating and Influencing Technical skills We'll assess you against these technical skills during the selection process: Rhaid i chi fod â Gradd yn y Gyfraith, Arholiad Proffesiynol Cyffredin/Diploma Graddedig yn y Gyfraith. Rhaid i chi fod wedi cwblhau Cwrs Ymarfer Cyfreithiol, Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr neu Gwrs Galwedigaethol y Bar/Cwrs Hyfforddiant Proffesiynol y Bar. Rhaid i chi fod wedi cwblhaur cyfnod prawf / contract hyfforddiant perthnasol Rhaid i chi fod yn Fargyfreithiwr neun Gyfreithiwr cymwysedig Rhaid i chi ddangos cymhelliant Rhaid i chi ddangos lefel briodol o ddeallusrwydd cyfreithiol Benefits Alongside your salary of £42,320, Crown Prosecution Service contributes £12,260 towards you being a member of the Civil Service Defined Benefit Pension scheme. Find out what benefits a Civil Service Pension provides. Ymunwch â Gwasanaeth Erlyn y Goron i ganfod eich pwrpas Rydym eisiau gwneud yn siŵr bod ein gweithwyr yn gallu ffynnu yn y gwaith ac yn y cartref ac rydym yn cynnig amrywiaeth o gymorth i sicrhau cydbwysedd. Mae hyn yn cynnwys oriau gweithio hyblyg, hyblygrwydd i gefnogi cyfrifoldebau gofalu ac agwedd hyblyg at leoli. Rydym yn cynnig polisi gweithio hybrid. O fis Medi 2024 ymlaen, disgwylir ichi dreulio o leiaf 40% och oriau contract dros gyfnod o bedair wythnos yn y llys, mewn swyddfa neu mewn gweithle swyddogol arall yn dibynnu ar anghenion y busnes ar math o waith rydych chin ei wneud. Ar gyfer y rôl hon fodd bynnag, rydych yn debygol o dreulion agosach at 100% och amser yn y Llys. Mae darparu cyfiawnder yn weithgaredd cymhleth gyda gwaith sydd weithiaun heriol yn emosiynol, a dyna pam ein bod yn cynnig amrywiaeth o fuddion, gan gynnwys: pensiwn cyfrannol y Gwasanaeth Sifil o hyd at 28.9% 25 diwrnod o wyliau bob blwyddyn, yn codi i 30 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth diwrnod braint ychwanegol i nodi pen-blwydd y Brenin absenoldeb cystadleuol o ran mamolaeth, tadolaeth ac absenoldeb rhieni gweithio hyblyg ac agwedd at waith syn ystyriol o deuluoedd cynllun Seiclo i'r Gwaith, cynilion gweithwyr amrywiaeth o weithgareddau dysgu a datblygu, cyfrif dysgu unigol, a chyfleoedd datblygu canolog a lleol. Erlynwyr y Goron Swyddi a leolir yn y llys yn unig yw Erlynwyr y Goron. Maen ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus ddod ir llys bob dydd i gyflawni eu rôl. Maer CPS yn gyflogwr hyderus o ran anabledd sydd wedi ymrwymo i wneud addasiadau rhesymol er mwyn i chi allu dod ir llys bob dydd. Rydym yn eich annog i ystyried a ywr daith ou cartref ir swyddfa/llys yn bellter ymarferol i deithio cyn gwneud cais. Os byddwch yn llwyddiannus, bydd gweithio hybrid yn cael ei drafod cyn dechrau yn y swydd. Pethau y mae arnoch angen eu gwybod Things you need to know Selection process details This vacancy is using Success Profiles (opens in a new window), and will assess your Behaviours, Strengths, Experience and Technical skills. Rhaglen CV Lanlwythwch CV cyfredol sy'n cynnwys: hanes cyflogaeth a hanes academaidd tair blynedd sgiliau a phrofiad cyflawniadau cymwysterau Ni fydd eich CV yn cael ei farcio; fodd bynnag, bydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gofynion cymhwyso a bydd yn rhoi cipolwg i'r panel ar eich hanes gwaith a'ch profiad adeg eich asesu ac yn ystod y cyfweliad. Cadwch at ddwy dudalen A4 a pheidiwch â rhoi unrhyw fanylion personol a allai ddatgelu pwy ydych chi fel eich enw, eich oedran neu eich cyfeiriad cartref. Mae angen ichi ddarparur wybodaeth benodol ar gyfer y cais yn y fformat y gofynnir amdano er mwyn sicrhau eich bod yn cael eich ystyried ar gyfer y swydd. Os na allwch roi tair blynedd o hanes cyflogaeth neu hanes academaidd, mae angen geirda cymeriad arnoch at ddibenion clirio. Data personol Yn unol â GDPR, peidiwch ag anfon unrhyw wybodaeth atom syn gallu datgelu hunaniaeth plant, nac unrhyw ddata personol sensitif amdanoch chi eich hun fel hil neu darddiad ethnig, safbwyntiau gwleidyddol, credoau crefyddol neu athronyddol, aelodaeth o undeb llafur, data syn ymwneud ag iechyd neu fywyd rhywiol a chyfeiriadedd rhywiol, data genetig neu fiometrig yn eich CV ach dogfennau cais. Asesiad a chyfweliad - o ddydd Llun 3 Mawrth 2025 i ddydd Gwener 14 Mawrth 2025 Os ydych chin bodlonir meini prawf cymhwyso, cewch eich gwahodd i gyfarfod Microsoft Teams lle byddwch yn cwblhau asesiad cyfreithiol ac yna gyfweliad byr. Byddwch yn cael eich asesu ach cyfweld gan banel o gydweithwyr Gwasanaeth Erlyn y Goron i asesu eich addasrwydd. Beth a asesir yn yr asesiad cyfreithiol ar cyfweliad Gallu: Deallusrwydd Cyfreithiol asesir yn ystod yr asesiad cyfreithiol Cymhelliant - asesir yn y cyfweliad Ymddygiad- rydym yn defnyddio ymddygiad i'n helpu i ddeall eich profiad, i'ch helpu chi i wneud gwaith gwych yn y rôl hon. Caiff ymgeiswyr am swydd erlynydd y goron eu hasesu yn erbyn lefel 3 yn fframwaith ymddygiadau proffiliau llwyddiant y Gwasanaeth Sifil. Rydym yn asesu dau ymddygiad. Gwneud penderfyniadau effeithiol (ymddygiad arweiniol) - asesiad a chyfweliad Cyfathrebu a dylanwadu - asesu Cofiwch - chi syn gyfrifol am drefnu eich slot ar gyfer yr asesiad ar cyfweliad drwy Swyddir Gwasanaeth Sifil. Ar ôl i chi ddewis eich slot amser, byddwn yn anfon dolen Microsoft Teams atoch. Gall y dyddiadau hyn newid ac nid yw bob amser yn bosibl cynnig dyddiadau eraill. Mae amrywiaeth yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron yn ymwneud â chynhwysiant, gan groesawu gwahaniaethau a sicrhau bod ein gweithlu wir yn adlewyrchur cymunedau a wasanaethwn. Rydym eisiau i chi deimlo eich bod yn perthyn ach bod yn gallu ffynnu, beth bynnag foch cefndir, eich hunaniaeth neu eich diwylliant. Fel cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, rydym yn hapus i gefnogi ceisiadau am addasiadau rhesymol a gwella eich profiad or broses recriwtio. Os hoffech chi i unrhyw addasiadau rhesymol gael eu gwneud in proses recriwtio, rhowch wybod i ni ar eich cais neu cysylltwch ag nationallawyerrecruitmentcps.gov.uk Gwneud cynigion - o ddydd Llun 17 Mawrth ymlaen Gallwch ddewis tri lleoliad swyddfa o'r rhestr a ddarperir. Os byddwch yn llwyddiannus, ein nod yw cynnig un o'ch dewisiadau yn y lle cyntaf. Er y gwneir pob ymdrech i ddarparu ar gyfer eich dewisiadau o ran lleoliad, mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn sefydliad cenedlaethol sydd â gwahaniaethau o ran adferiad gweithredol, lefelau swyddi gwag a llwyth achosion ledled y wlad syn golygu y gallech gael cynnig rôl mewn ardal Gwasanaeth Erlyn y Goron arall sydd y tu allan ir ardal a ddewiswyd gennych. Os cewch eich gwahodd i gyfweliad, cewch eich asesu ach cyfweld gan banel priodol a gwneir cynigion yn nhrefn teilyngdod. Sylwch mair ymddygiad arweiniol yn ystod y cyfweliad yw gwneud penderfyniadau effeithiol. Efallai y byddwn yn defnyddio hyn i benderfynu ar drefn teilyngdod lle mae gan ymgeiswyr yr un sgôr gyffredinol. Arall Swydd amser llawn yw hon. Fodd bynnag, ystyrir ceisiadau am weithio hyblyg, rhan-amser a rhannu swydd gan ystyried anghenion gweithredol y busnes. Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedii leoli yng Nghymru a Lloegr. Os ydych yn gwneud cais am y swydd hon ac yn byw yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon, rhaid i chi roi gwybod i ni wrth dderbyn y cynnig hwn gan fod angen caniatâd arnoch i weithio och cyfeiriad cartref os yw gweithio hybrid yn rhan och rôl. Yn anffodus, nid oes sicrwydd y rhoddir y gymeradwyaeth hon. Maer swydd rydych yn gwneud cais amdani yn dod o dan Erthygl 3(a) o Orchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975, felly nid yw Adran 4(2) y Ddeddf honnon berthnasol. Am y rhesymau a amlinellir maen ofynnol i chi ddatgelu pob euogfarn a rhybudd blaenorol, gan gynnwys euogfarnau sydd wedi darfod. Mae methu â gwneud datganiad llawn yn golygu tynnu cynnig swydd yn ôl os bydd ein gwiriadau yn datgelu euogfarnau nad ydynt wedi cael eu datgelu. Rhestr wrth gefn Os bydd yr holl swyddin cael eu llenwi ar gyfer y lleoliadau och dewis, byddwch yn cael eich rhoi ar restr wrth gefn. Efallai y cysylltir â chi ynghylch cyfle mewn lleoliad nad ywn ddewis cyntaf gennych. Gwneir cynigion bob amser yn nhrefn teilyngdod. Efallai y bydd adegau pan gewch gyfle i weithio ar ein tîm erlyn canolog i gwblhau gwaith o bell ar gyfer ardaloedd busnes ledled Cymru a Lloegr. Os cewch gynnig, bydd hynny am gyfnod o 12 mis o leiaf gydar posibilrwydd oi ymestyn i hyd at 24 mis. Ar ôl ei gwblhau, byddwch yn dychwelyd yn barhaol ich ardal chi yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron. Bydd y rhestr wrth gefn yn cael ei dileu 12 mis ar ôl cynnal y cyfweliadau ac ni ellir gwarantu swyddi ar gyfer eich dewis cyntaf. Llinell amser Maen bosibl y bydd y dyddiadau syn cael eu hysbysebu yn newid ac efallai na fydd yn bosibl cynnig dyddiadau eraill ar gyfer asesiadau neu gyfweliadau. Sesiynau cwrdd ac ymgysylltu Rydyn nin cynnal sesiwn holi ac ateb ar-lein tra bor swydd wag yn fyw. Dyma eich cyfle i ofyn unrhyw gwestiynau am y rôl neur broses recriwtio. Gallwch gofrestru ar gyfer hyn nawr. Dydd Iau 23 Ionawr, 1-1.45pm - https://meetandengage.com/am5qyoh32 Dydd Iau 6 Chwefror, 1-1.45pm - https://meetandengage.com/am5qypmbe Hysbysiad Prosesu Teg Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn darparu Hysbysiad Prosesu Teg i bob ymgeisydd newydd ar ôl iddynt fod yn llwyddiannus yn y cyfweliad. Rhoddir gwybod ir ymgeiswyr hyn, fel un agwedd ar sgrinio cyn cyflogi, fod eu manylion personol enw, rhif Yswiriant Gwladol a dyddiad geni yn cael eu gwirio yn erbyn y Gronfa Ddata Twyll Mewnol. Gwrthodir cyflogaeth i unrhyw un sydd wedii gynnwys yn y gronfa ddata oni bai eu bod yn gallu dangos amgylchiadau eithriadol. Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron, ar ran deiliad y swydd wag, yn rhoi gwybod i ymgeiswyr pan wrthodir cyflogaeth iddynt am eu bod wediu cynnwys ar y Gronfa Ddata Twyll Mewnol. Comisiwn y Gwasanaeth Sifil Os ydych chin anfodlon âr broses recriwtio ach bod yn dymuno cwyno, cysylltwch â strategic.resourcingcps.gov.uk gydach pryderon. Os ydych yn dal yn anfodlon ac yn dymuno gwneud cwyn arall, gallwch wneud hynny drwy dudalen gwyno Comisiwn y Gwasanaeth Sifil. Dyma egwyddorion recriwtio Comisiynwyr y Gwasanaeth Sifil. Feedback will only be provided if you attend an interview or assessment. Security Successful candidates must undergo a criminal record check. People working with government assets must complete baseline personnel security standard (opens in new window) checks. Nationality requirements This job is broadly open to the following groups: UK nationals nationals of the Republic of Ireland nationals of Commonwealth countries who have the right to work in the UK nationals of the EU, Switzerland, Norway, Iceland or Liechtenstein and family members of those nationalities with settled or pre-settled status under the European Union Settlement Scheme (EUSS) (opens in a new window) nationals of the EU, Switzerland, Norway, Iceland or Liechtenstein and family members of those nationalities who have made a valid application for settled or pre-settled status under the European Union Settlement Scheme (EUSS) individuals with limited leave to remain or indefinite leave to remain who were eligible to apply for EUSS on or before 31 December 2020 Turkish nationals, and certain family members of Turkish nationals, who have accrued the right to work in the Civil Service Further information on nationality requirements (opens in a new window) Working for the Civil Service The Civil Service Code (opens in a new window) sets out the standards of behaviour expected of civil servants. We recruit by merit on the basis of fair and open competition, as outlined in the Civil Service Commission's recruitment principles (opens in a new window). The Civil Service embraces diversity and promotes equal opportunities. As such, we run a Disability Confident Scheme (DCS) for candidates with disabilities who meet the minimum selection criteria. The Civil Service also offers a Redeployment Interview Scheme to civil servants who are at risk of redundancy, and who meet the minimum requirements for the advertised vacancy. Diversity and Inclusion The Civil Service is committed to attract, retain and invest in talent wherever it is found. To learn more please see the Civil Service People Plan (opens in a new window) and the Civil Service Diversity and Inclusion Strategy (opens in a new window). Apply and further information This vacancy is part of the Great Place to Work for Veterans (opens in a new window) initiative. Once this job has closed, the job advert will no longer be available. You may want to save a copy for your records. Contact point for applicants Job contact : Name : National Lawyer Recruitment Team Email : NationalLawyerRecruitmentcps.gov.uk Recruitment team Email : strategic.resourcingcps.gov.uk Attachments NEW CPS TERMS AND CONDITIONS Opens in new window (pdf, 350kB) Crown Prosecutor - Job Description Opens in new window (pdf, 27kB) cym - Candidate pack - National lawyer (Crown Prosecutor) 2025 FINAL Opens in new window (docx, 1571kB) Share this page Print Email Facebook Twitter LinkedIn GMail