Mae gan yr Undeb Prifysgolion a Cholegau gyfle newydd i Swyddog Cymorth Rhanbarthol ymuno â'u tîm yn Nhondu, Pen-y-bont ar Ogwr. Cyfeirnod Swydd: RSO1 Cyflog: £61,899 y.f. Oriau: 35 yr wythnos Contract: Llawn Amser, parhaol Lleoliad: Tondu, Pen-y-bont ar Ogwr, CF32 9BS Dyddiad cau: 10.00am 5 Mawrth Amdanom Ni: Mae'r Undeb Prifysgolion a Cholegau (UCU) yn cynrychioli dros 120,000 o academyddion, darlithwyr, hyfforddwyr/cyfarwyddwyr, ymchwilwyr, rheolwyr, gweinyddwyr, staff cyfrifiadurol, llyfrgellwyr, ac ôl-raddedigion mewn prifysgolion, colegau, carchardai, addysg oedolion a sefydliadau hyfforddi ledled y DU. Mae gennym hefyd aelodau yn y sector preifat, er enghraifft mewn asiantaethau hyfforddi preifat ac ysgolion iaith, yn ogystal ag aelodau sy'n gweithio'n llawrydd. Mae myfyrwyr sy'n hyfforddi i addysgu ym maes addysg ôl-ysgol hefyd yn perthyn i UCU. Swyddog Cymorth Rhanbarthol – Y Rôl: Yn adrodd i Swyddog Cymru, byddwch yn rhoi amcanion bargeinio, ymgyrchu a threfnu cyson ar waith. Swyddog Cymorth Rhanbarthol – Cyfrifoldebau Allweddol: - Helpu i sicrhau a chynnal cydnabyddiaeth o UCU yn yr ardaloedd dynodedig - Cynnal a chefnogi trafodaethau â sefydliadau cyflogi yn unol ag amcanion bargeinio y cytunwyd arnynt yn genedlaethol ac yn lleol - Cyfrannu at y gwaith o sefydlu a darparu hyfforddiant rhanbarthol yn effeithiol yn unol â'r rhaglen hyfforddiant genedlaethol - Cymryd rhan a threfnu gweithgareddau rhanbarthol a lleol yn unol ag amcanion ymgyrchu cenedlaethol/rhanbarthol - Dirprwyo ar gyfer Swyddog Cymru fel y bo'n briodol Swyddog Cymorth Rhanbarthol – Chi: - Addysg hyd at lefel TGAU (gan gynnwys Mathemateg a Saesneg) neu lefel gyfatebol - Profiad o weithio mewn amgylchedd gwaith tebyg a/neu ddealltwriaeth o weithio i undeb llafur neu sefydliad nid er elw arall - Gwybodaeth dda am y sector addysg ôl-orfodol; gwybodaeth a dealltwriaeth ymarferol ynghylch cyfraith cyflogaeth, yn ogystal â phrofiad o drefnu undeb llafur - Sgiliau rhyngbersonol ardderchog, byddwch yn gallu eirioli ar ran aelodau a chynrychioli unigolion mewn achosion disgyblu a chwyno - Bydd angen i chi deithio ledled y rhanbarth Swyddog Cymorth Rhanbarthol – Buddiannau: Rydym yn cynnig nifer o fuddiannau ariannol a lles i gefnogi ein cyflogeion, mae'r uchafbwyntiau yn cynnwys: - Polisïau Teulu Cefnogol Croesawu bywyd teuluol â chynlluniau Absenoldeb Mamolaeth, Absenoldeb Mabwysiadu, Absenoldeb Tadolaeth ac Absenoldeb Rhieni a Rennir - Cymorth Iechyd a Llesiant: Mynediad at gwnsela cyfrinachol 24/7 drwy ein Rhaglen Cymorth i Gyflogeion; cyngor ac ymyriadau wyneb yn wyneb drwy ein Llinell Gyngor Ffisiotherapi; Asesiad Gofal Iechyd - Gweithio Hyblyg: Manteisio ar ein cynllun oriau hyblyg, gan eich galluogi i deilwra eich oriau gwaith yn unol â'n polisi Cydbwysedd rhwng Bywyd a Gwaith - Cymorth Ariannol: Buddiannau ar ôl cofrestru â Chynllun Pensiwn y Prifysgolion (USS), cymorth gofal plant, benthyciadau tocyn tymor di-log, a chymorth â chostau profion llygaid a sbectol ar gyfer defnyddio cyfarpar sgrin arddangos - Hyfforddiant a Datblygiad: Mireinio eich sgiliau â hyfforddiant wedi'i deilwra, cymorth datblygiadol, a dros 300 o fodiwlau eDdysgu ar gael drwy ein Hystafell Hyfforddiant ar-lein. Proses Gwneud Cais Mae UCU yn gyflogwr cyfle cyfartal ac yn annog ceisiadau gan bob ymgeisydd cymwys, waeth beth fo'u rhyw, hil, anabledd, oedran, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, crefydd, statws priodasol, neu feichiogrwydd. Rydym yn hapus i gael ceisiadau mewn fformatau amgen gan ymgeiswyr a allai gael anhawster gwblhau ein ffurflen safonol, oherwydd amrywiaeth o resymau anabledd. Gweler yr hysbyseb ar ein gwefan am fanylion pellach. Rydym yn croesawu ceisiadau yn enwedig gan fenywod ac ymgeiswyr Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ar y radd hon yn UCU. Os yw hyn yn berthnasol i chi ac mae gennych ddiddordeb, ymunwch â sesiwn friffio ar-lein ynglyn â'r rôl a gweithio yn yr Undeb ar 27 Chwefror o 1pm i 2pm. Bydd cyfle i chi hefyd ofyn cwestiynau. I gael y manylion briffio, ewch i'r hysbyseb ar ein tudalen swyddi gwag a rhowch wybod i ni erbyn 12 hanner dydd ar 26 Chwefror. Nid oes rhaid mynychu'r sesiwn friffio. Monitro Amrywiaeth a Chynhwysiant Cwblhewch y data amrywiaeth a chynhwysiant wrth wneud cais, hyd yn oed os nad ydych wedi cael eich dewis ar gyfer cyfweliad. Bydd hyn yn ein helpu i sicrhau ein bod yn denu amrywiaeth eang o ymgeiswyr. I wneud cais ar gyfer y cyfle cyffrous hwn i fod yn Swyddog Cymorth Rhanbarthol, cliciwch ar ‘Apply’ nawr. Dyddiad Cau : 5 Mawrth 2025, 10:00am Cyfweliadau: 20 Mawrth 2025