Bydd y Pennaeth Staff (PS) yn chwarae rhan ganolog wrth gefnogi’r Prif Swyddog Tân a ymunodd â’r gwasanaeth ym mis Tachwedd 2024. Rydym yn chwilio am Bennaeth Staff egnïol a blaengar. Mae'r rôl ganolog hon yn cynnwys cynllunio strategol, rheoli rhanddeiliaid a phartneriaid, ac arwain prosiectau traws-swyddogaethol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn hwyluso aliniad ar draws pob maes busnes, yn sicrhau cyfathrebu effeithlon ac yn gweithio gyda'r Prif Swyddog Ariannol ar faterion o ddydd i ddydd sy'n ymwneud ag arwain y sefydliad. Bydd y Pennaeth Staff yn gweithio’n agos gyda’r Prif Swyddog Ariannol a’r Uwch Dîm Arwain i feithrin perthnasoedd cryf â rhanddeiliaid a phartneriaid, gan sicrhau eu bod yn ymgysylltu ac yn cael eu hysbysu’n gyson, gan sicrhau cydweithredu ac aliniad ar draws swyddogaethau.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau adeiladu perthynas eithriadol a gallu cryf i ddylanwadu ar ganlyniadau trwy gydweithio. Mae profiad o reoli darnau lluosol o waith mewn amgylchedd cyflym ac ymgysylltu â rhanddeiliaid ar bob lefel yn hanfodol
Noder: Mae profiad o reoli darnau lluosog o waith mewn amgylchedd cyflym ac ymgysylltu â rhanddeiliaid ar bob lefel yn hanfodol Bydd angen teithio hefyd, felly mae angen y gallu i deithio'n annibynnol
1. Cytundeb: Cytundeb Cyfnod Penodol 12 Mis
2. Gradd: Pennaeth Gwasanaeth - Pennaeth Staff
3. Cyflog: £72,054 a 10% ychwaneg...