Un Llais Cymru Swyddog Bioamrywiaeth - Gogledd Cymru Rhan-Amser 4 diwrnod yr wythnos (30Awr) Cyflog: £29,937 y flwyddyn (£36,922 CLlA) (Codiad Cyflog yn yr Arfaeth) Cyfnod sefydlog tan fis Mawrth 2027 (Caiff y rôl hon ei hariannu’n llawn gan raglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru) Un Llais Cymru yw’r prif gorff aelodaeth ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref yng Nghymru. Yn dilyn 4 blynedd lwyddiannus yn datblygu a hyrwyddo bioamrywiaeth ac adferiad natur o fewn rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, rydym yn ehangu ein tîm. Bydd Swyddog Bioamrywiaeth newydd Gogledd Cymru yn cynorthwyo Rheolydd y Rhaglen i gyflawni nodau ac amcanion rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru ar draws y sector Cynghorau Cymuned a Thref. Rydym yn chwilio am rywun sy’n frwdfrydig ac yn meddu ar lefelau uchel o gymhelliant am adferiad natur, rhywogaethau brodorol a hyrwyddo bioamrywiaeth. Byddwch yn cynnig cefnogaeth ymarferol, cyngor arbenigol a hyfforddiant i’r sector ar adferiad natur a glasu’r stad gyhoeddus ac yn eu cynorthwyo i reoli tir amwynder yn effeithiol ar gyfer bioamrywiaeth. Byddwch yn eiriolydd ar ran y sector ac yn cynrychioli eu hanghenion ac yn hwyluso perthnasoedd cadarnhaol rhwng Cynghorau Cymuned a Thref a mudiadau eraill. Bydd y rôl hon yn rhoi’r cyfle ichi wneud gwahaniaeth gwirioneddol ar draws Cymru, trwy weithio gyda gwirfoddolwyr a Chynghorwyr ymroddedig i greu, gwella ac adfer natur ar y trothwy. Byddwch yn gweithio’n rhan o dîm, ac yn adrodd yn uniongyrchol i Reolydd Rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, ac fel aelod gwerthfawr o staff Un Llais Cymru, cewch eich cefnogi’n llawn gan y Prif Weithredwr a gweddill y tîm yma yn Un Llais Cymru. Byddwch yn gweithio gartref ond bydd y rhaglen waith yn canolbwyntio’n bennaf ar Siroedd Gogleddol Cymru a bydd angen teithio rheolaidd ynghyd â pheth gwaith dros y Sul a gyda’r nos. Bydd angen ichi weithio yn yr awyr agored ymhob tywydd ac ar dirwedd o bob math. Mae bod yn siaradwr Cymraeg rhugl yn ddymunol ond nid yn hanfodol, ond mae sgiliau iaith Gymraeg o Lefel 1-3 neu’r parodrwydd i ddysgu yn hanfodol ar gyfer y rôl hon. Croeso i chi wneud cais yn Gymraeg neu’n Saesneg a bydd pob cais a gyflwynir yn cael eu trin yn gyfartal. Er mwyn gofyn am becyn gwneud cais ewch i Wefan Un Llais Cymru. Ni dderbynnir dogfennau CV Dyddiad Cau: Ganol nos ar y 23ain Mai 2025 Mae Un Llais Cymru yn Gyflogydd Cyfleoedd Cyfartal ac mae’n croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymuned