Cynorthwywyr Addysgu x 2 (Lefel 3 neu yn gweithio tuag at Lefel 3) x1 swydd Rhan Amser Parahol x1 swydd Rhan Amser - Cytundeb Blwyddyn Oriau gwaith: 32.5 awr yr wythnos Cyflog: NJC Gradd 5 Yn eisiau ar gyfer 01.09.25 Dymuna Llywodraethwyr Ysgol Gymraeg Y Castell apwyntio Cynorthwywyr Addysgu i weithio yn yr ysgol flaengar hon. Rydym am benodi ymarferwyr ymroddedig a brwdfrydig a fydd yn: gweithio’n frwd fel rhan o dîm cryf. cefnogi dysgu disgyblion yn nosbarthiadau’r ysgol dan oruchwyliaeth ac arweiniad yr athro dosbarth. cynorthwyo'r athro yn y cylch cynllunio ac asesu ac wrth reoli a pharatoi adnoddau. arwain gwaith 1-1 ac mewn sefyllfaoedd grŵp gyda disgyblion targedig ar draws yr ysgol. meddu ar sgiliau rhyngbersonol da a gallu gweithio'n hyblyg ac yn adeiladol fel rhan o dîm. darparu profiadau rhagorol i unigolion a grwpiau o ddysgwyr ifanc y tu mewn a thu allan i'r ystafell ddosbarth. meddu ar ddealltwriaeth gadarn o'r Cwricwlwm Cenedlaethol. gallu gwerthfawrogi a chefnogi rôl gweithwyr proffesiynol eraill. barod i gymryd rhan mewn datblygiad proffesiynol a chyfleoedd hyfforddi. gallu gweithio o dan gyfarwyddyd yr athro dosbarth i sicrhau bod dysgu o ansawdd uchel yn digwydd. gweithio’n sensitif gyda rhieni i sicrhau lles pob disgybl. goruchwylio dosbarthiadau cyfan yn achlysurol pan fydd athrawon yn absennol yn y byrdymor. sicrhau cyfrinachedd bob amser a dilyn gweithdrefnau. Dyddiad cau: Dydd Gwener 2.5.25 Cyfweliadau: WD 19.5.25 I ofyn am ffurflen gais, cysylltwch â'r ysgol yn uniongyrchol ar 02920 864790. Dylid dychwelyd ffurflenni cais wedi'u cwblhau i : Mr G Hughes, Pennaeth, Ysgol Gynradd Gymraeg Y Castell Heol Cilgant Caerffili CF83 1WH neu trwy e-bost at YGGYcastellsch.caerphilly.gov.uk Neu, gwnewch gais trwy eteach. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn cael ei ystyried yn hanfodol i ymgymryd â’r swydd hon. Felly, mae'r swydd yn cael ei hysbysebu yn unol â darpariaethau Adran 38 o Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976. I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person dewiswch yr atodiad perthnasol o'r rhestr atodiadau. Am fanylion pellach neu sgwrs anffurfiol, ffoniwch 02920 864790 O dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, mae rhaid i’r holl staff Cymorth Dysgu (sy’n cynnwys y swyddi y sonir amdanynt yma) fod wedi cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg dros Gymru o 1 Ebrill 2016. Bydd eich cyflogaeth yn dibynnu ar dystiolaeth ddigonol o’ch cofrestriad a’ch cofrestriad parhaol, fel Cynorthwyydd Cymorth Dysgu gyda Chyngor y Gweithlu Addysg. Gellir dod o hyd i wybodaeth am sut i gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg ar y wefan hon https://www.ewc.wales/site/index.php/cy/ neu drwy ffonio 02920 460099. Eich cyfrifoldeb ydi sicrhau eich bod yn cofrestru ac yn parhau i gofrestru yn unol â thermau a thelerau eich cyflogaeth. Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006. Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.