Lleoliad: Wrecsam - Cwmpasu Wrecsam a Sir y Fflint
Pwrpas y Rôl:
Mae Caniad yn brosiect cynnwys defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr iechyd meddwl yng Ngogledd Cymru sy’n cael ei gynnal gan Adferiad. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gynnig cymorth o fewn gwasanaethau camddefnyddio sylweddau ar draws Wrecsam a Sir y Fflint. Gweithio fel rhan o dîm i hwyluso cyfleoedd cyfranogiad a dod ag ystod o bobl sydd â phrofiad diweddar o wasanaethau camddefnyddio sylweddau at ei gilydd.
Bydd y prosiect yn nodi cyfleoedd i gymryd rhan, yn hwyluso presenoldeb mewn cyfarfodydd, fforymau, a digwyddiadau, yn recriwtio aelodau newydd, yn cefnogi darparu hyfforddiant perthnasol a chymorth TG, yn ad-dalu treuliau ac yn gweinyddu cynllun bancio amser y prosiect.
Gweithio gydag unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl a/neu wasanaethau camddefnyddio sylweddau sy’n cyd-ddigwydd i hwyluso ystod o fecanweithiau i rannu eu barn a’u profiadau a chyfrannu at gynllunio, dylunio, darparu, monitro a gwerthuso’r gwasanaethau a gânt.
Rydym yn cadw'r hawl i gau'r swydd wag hon yn gynnar os byddwn yn derbyn digon o geisiadau ar gyfer y rôl. Felly, os oes gennych ddiddordeb, cyflwynwch eich cais cyn gynted â phosibl.
Y dyddiad cyfweld arfaethedig ar gyfer y rôl hon yw 27/01/2025
Os credwch fod gennych y sgiliau hyn, ond nad ydych 100% yn siŵr, gwnewch gais o hyd a gadewch i ni benderfynu. Gwyddom fod rhai grwpiau yn diystyru eu hunain o gyfleoedd diddorol gan gymryd y bydd eraill yn fwy llwyddiannus, ond peidiwch â bod y person hwnnw. Rydym am glywed gan y trawstoriad ehangaf o’r gymuned.
#J-18808-Ljbffr