Cyflog: £23,658.53 Per Annum (Pro rata) - Yn amodol ar gynnydd yn dilyn adolygiad cyflog sydd ar fin digwydd
Lleoliad: Ysbyty Brenhinol Gwent Casnewydd
Pwrpas y Rôl:
Mae gwasanaeth GCIAAS wedi’i gynllunio i ddarparu Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth i ofalwyr di-dâl gyda’r nod o’u cefnogi yn eu rôl ofalu a’u hannog i ofalu am eu lles.
Eich rôl chi yw creu gofod croesawgar mewn ysbytai gan gynnig cyfle i ofalwyr siarad am eu sefyllfa a sut i gael mynediad at gefnogaeth.
Mae’r Hybiau Gwybodaeth wedi’u lleoli mewn ysbytai ledled Gwent ac yn cael eu hwyluso gan amrywiaeth o bartneriaid a/neu wirfoddolwyr. Mae’r swydd hon wedi’i lleoli yn Ysbyty Brenhinol Gwent, gyda’r posibilrwydd o ddarparu cymorth i Hybiau eraill os oes angen.
Os credwch fod gennych y sgiliau hyn, ond nad ydych 100% yn siŵr, gwnewch gais o hyd a gadewch i ni benderfynu. Gwyddom fod rhai grwpiau yn diystyru eu hunain o gyfleoedd diddorol gan gymryd y bydd eraill yn fwy llwyddiannus, ond peidiwch â bod y person hwnnw. Rydym am glywed gan y trawstoriad ehangaf o’r gymuned.
#J-18808-Ljbffr