The following is an advert for a ALN Center Teaching Assistant – Behaviour/Guidance/Support (Level 2) where the ability to converse through the medium of Welsh and English is essential.
Yn eisiau o Ionawr y 1af 2025.
Cyfle euraidd i weithio mewn ysgol ardal newydd sydd â chyfleusterau modern o’r radd flaenaf, gyda Chanolfan ADY, Canolfan Iaith ac adnoddau chwaraeon gwych yn rhan o’r campws, mewn ardal odidog yng ngorllewin Cymru.
Mae Corff Cysgodol Llywodraethwyr Ysgol Dyffryn Aeron yn awyddus i benodi Cynorthwyydd Addysgu y Ganolfan ADY – (Ymddygiad/Arweiniad/Cefnogaeth – Lefel 2) sy’n ymroddedig ac ysbrydoledig a fydd yn darparu cefnogaeth a chymorth i Athro Arbenigol Calon Aeron, y Ganolfan ADY.
Bydd y Cynorthwyydd Addysgu yn ran annatod o lunio dyfodol Calon Aeron, Canolfan ADY Ysgol Dyffryn Aeron a llywio ei llwyddiant.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
- gweithio o dan arweiniad uwch aelodau o’r staff/staff addysgu ac o fewn system gytunedig o oruchwyliaeth
- gweithredu rhaglenni gwaith cytunedig gydag unigolion/grwpiau, oddi mewn neu oddi allan i’r ystafell ddosbarth. Gallai hyn olygu’r rhai sy’n galw am wybodaeth fanwl ac arbenigol mewn rhai meysydd, a bydd yn golygu cynorthwyo’r athro neu’r athrawes gyda’r cylch cynllunio cyflawn, yn ogystal â rheolaeth staff a rheoli/paratoi adnoddau
O bryd i’w gilydd hefyd, gall staff oruchwylio dosbarthiadau cyfan yn ystod absenoldeb byr-dymor athrawon. Bydd y prif bwyslais ar gynnal disgyblaeth dda a chadw’r disgyblion wrth eu gwaith. Bydd angen i Oruchwylwyr Llanw ymateb i gwestiynau a rhoi cymorth cyffredinol i’r disgyblion wrth iddynt ymgymryd â gweithgareddau penodol.
Gwelwch ein gwefan gyrfaoedd am y Ddisgrifiad Swydd a Manyleb Person.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Pennaeth, Ms Nia Lloyd Thomas ar 01570470650 neu Thomasn60@hwbcymru.net
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Proud member of the Disability Confident employer scheme
Disability Confident
About Disability Confident
A Disability Confident employer will generally offer an interview to any applicant that declares they have a disability and meets the minimum criteria for the job as defined by the employer. It is important to note that in certain recruitment situations such as high-volume, seasonal and high-peak times, the employer may wish to limit the overall numbers of interviews offered to both disabled people and non-disabled people. For more details please go to Disability Confident .