Closing Date: Monday 24th February 2025 12 Noon Interview Date: TBC About the Role WLGA wants to appoint a Chief Digital Officer (CDO) with the skills, knowledge and experience to help shape and drive local government’s digital agenda, providing strategic leadership and managing the WLGA’s digital team. They will need a good understanding of the challenges and opportunities facing councils/public services and to have / develop effective networks and relations with digital leaders within Wales’s councils and wider public services (including chief digital officers in Welsh Government, NHS, Centre for Digital Public Services and other bodies). We are looking for an exceptional, highly motivated candidate with the drive and determination to champion and support digital transformation across 22 complex and diverse organisations that operate in a political environment. You will engage regularly with, and provide advice to, the WLGA’s Spokespersons and Senior Management Team and will report to a Board that oversees work and monitors’ progress. The successful candidate will need to: command respect as a digitally experienced, credible, collaborative and influential leader committed to continuous digital improvement have extensive experience as a senior manager in a multi-disciplinary organisation with a proven track record in developing, leading and delivering successful strategies, programmes and projects ensure local government has strong and effective representation on digital matters and in national and regional level discussions have the knowledge and skills required to manage a range of stakeholders with differing views, whilst also ensuring a focus on taking forward innovative technology and data-led approaches to service delivery and public engagement work with senior policy colleagues across the WLGA and Data Cymru to achieve an integrated approach to public service improvement and transformation in councils, placing citizens and public service users at the heart of service design support the development of digital talent, working with CDPS and other partners in building digital capabilities across local government and the wider public sector have strong written and oral communication skills, including the ability to convey complex technical concepts to a non-technical audience be committed to providing a bilingual service and promotion of the Welsh language, ensuring Welsh language considerations are integrated into all plans and strategies. Apply Now For an initial discussion about the role and the organisation, please contact Tim Peppin, Corporate Director (Delivery) on 07747483761 or at tim.peppinwlga.gov.uk The successful candidate will be required to provide evidence of identity and eligibility to work in the UK. The WLGA does not participate in the UK Visa Sponsorship Scheme therefore, candidates will have to provide evidence of their Right to Work in the UK if offered a role with us. The Association is an Equal Opportunities Employer. Dyddiad Cau: Dydd Llun 24 Chwefror 2025 - Hanner Dydd Dyddiad y Cyfweliad: I'w Gadarnhau Ynglŷn â’r Swydd Mae ar CLlLC eisiau penodi Prif Swyddog Digidol gyda’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiad i helpu i siapio a datblygu rhaglen ddigidol y llywodraeth leol, gan ddarparu arweinyddiaeth strategol a rheoli tîm digidol CLlLC. Bydd angen dealltwriaeth dda o’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu cynghorau/gwasanaethau cyhoeddus yn ogystal â rhwydweithiau effeithiol a pherthynas dda gydag arweinwyr digidol cynghorau Cymru a gwasanaethau cyhoeddus ehangach (yn cynnwys prif swyddogion digidol Llywodraeth Cymru, y GIG, Canolfan Gwasanaethau Digidol Cyhoeddus a chyrff eraill). Rydym ni’n chwilio am ymgeisydd eithriadol a brwdfrydig sy’n llawn cymhelliant i gefnogi gwaith trawsnewid digidol ar draws 22 o sefydliadau cymhleth ac amrywiol sy’n gweithredu mewn amgylchedd gwleidyddol. Byddwch yn darparu cyngor ac yn ymgysylltu’n rheolaidd â llefarwyr ac Uwch Dîm Rheoli CLlLC, ac yn adrodd i fwrdd a fydd yn goruchwylio’r gwaith ac yn monitro’r cynnydd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn: Ennyn parch fel arweinydd digidol, credadwy, cydweithredol a dylanwadol sydd wedi ymrwymo i welliannau digidol parhaus Meddu ar brofiad helaeth fel uwch-reolwr o fewn sefydliad amlddisgyblaethol gyda gyrfa dda o ddatblygu, arwain a chyflawni strategaethau, rhaglenni a phrosiectau llwyddiannus Sicrhau bod gan y llywodraeth leol gynrychiolaeth gref ac effeithiol mewn perthynas â materion digidol ac yn rhan o drafodaethau cenedlaethol a rhanbarthol Meddu ar y wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i reoli amrywiaeth o fudd-ddeiliaid gyda safbwyntiau gwahanol, gan sicrhau ffocws ar ddefnyddio technoleg arloesol a dulliau seiliedig ar ddata ar gyfer darparu gwasanaethau ac ymgysylltu cyhoeddus Gweithio gydag uwch gydweithwyr polisi CLlLC a Data Cymru i gyflawni dull integredig ar gyfer gwella gwasanaethau cyhoeddus a thrawsnewid cynghorau, gan roi dinasyddion a defnyddwyr gwasanaethau cyhoeddus wrth wraidd dyluniad gwasanaethau Cefnogi datblygiad talent ddigidol, gweithio gyda’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol a phartneriaid eraill i feithrin gallu digidol ar draws y llywodraeth leol a’r sector cyhoeddus ehangach Meddu ar sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar cryf, yn cynnwys y gallu i gyfleu cysyniadau technegol cymhleth i gynulleidfa annhechnegol Ymrwymo i ddarparu gwasanaeth dwyieithog ac i hyrwyddo’r Gymraeg, gan sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei hystyried a’i chynnwys ymhob cynllun a strategaeth Gwnewch gais Rŵan I gael sgwrs gychwynnol ynglŷn â’r swydd a’r sefydliad, cysylltwch â Tim Peppin, Cyfarwyddwr Corfforaethol (Darparu) ar 07747483761 neu ar tim.peppinwlga.gov.uk Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o hunaniaeth a chymhwysedd i weithio yn y DU. Nid yw Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cymryd rhan yng Nghynllun Nawdd Fisa'r DU felly, bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU pe bai'n cael cynnig rôl gyda ni. Mae WLGA yn cyflogi ei staff yn ôl egwyddorion cyfleoedd cyfartal.