Am Y Gwasanaeth Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (GCI) Caerdydd yn parhau ei daith wella, lle rydym yn ymdrechu i sicrhau canlyniadau rhagorol bob amser i bob plentyn a pherson ifanc yn ein gwasanaeth. I’n helpu i barhau â'n cynnydd cadarnhaol hyd yn hyn, rydym yn chwilio am ymarferydd GCI brwdfrydig, hunangymhellol a phrofiadol. Cynigir y swydd ar sail lawn amser barhaol a bydd ei deiliad yn rhan o'r Tîm Rheoli Achosion. Am Y Swydd Bydd gennych ddealltwriaeth o’r system cyfiawnder troseddol fel y mae’n effeithio ar blant a phobl ifanc (10 – 17 oed) sy’n troseddu; a dealltwriaeth ymarferol o egwyddorion cyfiawnder adferol a dulliau adferol, a bydd gennych brofiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc sydd wedi’u dadrithio. Byddwch yn gallu creu perthynas gadarnhaol gyda phobl ifanc, eu teuluoedd ac asiantaethau partner. Beth Rydym Ei Eisiau Gennych Bydd gennych brofiad o gynnal asesiadau a rheoli achosion cymhleth, yn ogystal â chynllunio ymyriadau priodol wedi'u targedu i leihau'r risg o droseddu/aildroseddu. Byddwch hefyd yn gallu ysgrifennu adroddiadau o ansawdd uchel gan gynnwys paratoi cynigion dedfrydu a bydd yn cyflwyno gwybodaeth i'r Llysoedd pan fo angen. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y swydd hon, cysylltwch â Marie Sweeney neu Angharad Thomas yn GCI Caerdydd ar 029 22 330355. Gwybodaeth Ychwanegol Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol. Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, cysylltwch â Laura.white3caerdydd.gov.uk i gael trafodaeth. Nodwch nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan: Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:- Canllaw ar Wneud Cais Ymgeisio am swyddi gyda ni Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol Gwybodaeth Ychwanegol:- Siarter Cyflogeion Recriwtio Cyn-droseddwyr Hysbysiad Preifatrwydd