Rydym yn chwilio am Beiriannydd Rhwydwaith i ymuno â'n Hadran TGCh brysur, sydd fel arfer wedi'i lleoli yn ein swyddfeydd yng Nghonwy.
Bydd y Peiriannydd Technegol yn adrodd yn ôl i’r Rheolwr Technegol a cyn sicrhau bod rhwydwaith TGCH a systemau telegyfathrebu yn gweithio’n iawn o ddydd i ddydd trwy ddarparu gwybodaeth dechnegol a chefnogaeth. Byddwch yn gweithio mewn amgylchedd heriol lle mae’n rhaid bod yn fanwl gywir, byddwch hefyd yn helpu gyda gosodiadau, ail ddilysu, atgyweirio ac ail ddylunio’r rhwydwaith a’r isadeiledd telegyfathrebu, bod yn bwynt cyswllt cyntaf a darparu cyfarwyddyd a chefnogaeth arbenigol i gydweithwyr a defnyddwyr.
Bydd rhaid i’r sawl a benodir fod yn frwdfrydig ac awyddus i ddysgu a datblygu eu sgiliau. Trwy ddulliau datrys problemau manwl byddant yn cymryd cyfrifoldeb dros dasgau a’u cwblhau.
Bydd angen i’r ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer ddangos y sgiliau canlynol (gyda thystiolaeth), fel yr amlinellir yn y disgrifiad o’r swydd ac ym manylion y person:
• Profiad gweithredol o rwydweithiau i safon CCNA neu gyfatebol
• Profiad o weithio yn adran Technoleg Gwybodaeth
• Sylw da i fanylion ac agwedd drefnus at ddatrys problemau
• Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol a hyfforddi eraill
• Y gallu i gwblhau gwaith ar amser a gweithio dan bwysau.
• Profiad o fethodoleg ITIL yn ddymunol
• Mae profiad o weithrediad systemau Solarwinds, Microsoft Server ac Active Directory yn hynod ddymunol
• Trwydded yrru lawn y DU a’r gallu i deithio pan a phryd fi angen
• Amodol ar wiriadau dilysu NPV
• Gallu cynnal sgwrs syml yn y Gymraeg hyd at Lefel 2 - os nad ydych chi’n gallu arddangos hyn wrth ymgeisiom bydd rhaid ei gyflawni yn ystod cyfnod prawf o 12 mis, gyda chefnogaeth ar gael lle bo’n addas.
Am ragor o wybodaeth am y rolau hyn, yn cynnwys swydd ddisgrifiadau a phecynnau cais, ewch i wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru neu anfonwch e-bost i: recruitment@northwalesfire.llyw.cymru