Dylunio a Thechnoleg
Mathemateg
Cymraeg
Mae'r ysgol yn awyddus i benodi Athro / Athrawes sy'n bodloni'r meini prawf canlynol;
* Athrawon cynradd yng Nghymru ac â diddordeb mewn datblygu gyrfa mewn ysgol uwchradd.
* Athrawon cynradd neu uwchradd sydd yn gweithio mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yng Nghymru, neu y tu hwnt i Gymru ond am ddychwelyd i ddysgu mewn ysgol uwchradd yng Nghymru ac angen cefnogaeth i bontio'n ieithyddol ac o ran gofynion y cwricwlwm.
* Athrawon cynradd ac uwchradd sydd am ddychwelyd i'r proffesiwn ar ôl cyfnod o bum mlynedd neu fwy.
Bwriad y cynllun yw cynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg o fewn y sector uwchradd. Fel rhan o'r cynllun byddwch yn ymuno â thîm addysgu Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe am flwyddyn gan dderbyn cefnogaeth wrth addysgu o fewn y sector uwchradd. Gwahoddwn geisiadau gan athrawon brwdfrydig a blaengar sydd â diddordeb mewn ehangu eu profiadau mewn ysgol uwchradd.
* Gwyddoniaeth
* Dylunio a Thechnoleg
* Technoleg Gwybodaeth
* Mathemateg
* Ieithoedd Tramor Modern
* Cymraeg
* Saesneg
Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe yn ysgol gymunedol, benodedig Gymraeg i ddisgyblion 11-18 oed ac yn cael ei chynnal gan awdurdod lleol Sir Abertawe. Wedi ei leoli ar gyrion Dinas Abertawe ac yn gyfleus iawn ar gyfer yr M4, ers agor yn 2003, mae Bryn Tawe wedi ennill bri fel ysgol gartrefol, lwyddiannus ac uchelgeisiol ar gyfer eu holl ddisgyblion. Mae staff gweithgar a thalentog yr ysgol yn allweddol wrth yrru llwyddiannau'r ysgol yn ogystal â sicrhau'r ymdeimlad cryf o gymuned sydd yn bodoli yma. Mae 922 o ddisgyblion yn yr ysgol bellach gyda 128 o fyfyrwyr yn y chweched dosbarth.
Mae'r cynllun hwn yn cynnig blwyddyn o gyflogaeth yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe i arsylwi ac addysgu o fewn pwnc neu bynciau arbenigol. Mewn cydweithrediad â Phrifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant byddwch yn derbyn cefnogaeth i drosglwyddo'n llwyddiannus i addysgu yn y sector uwchradd.
Bydd ffocws penodol ar yr agweddau canlynol:
* Cynllunio gwersi
* Asesu, marcio ac adborth
* Rheolaeth ddosbarth
* Datblygu dycnwch
* Sgiliau ieithyddol (yn ddibynnol ar anghenion yr unigolyn).
Bydd gennych Gefnogwr Proffesiynol o fewn yr ysgol a fydd yn cynnal deialog broffesiynol rheolaidd er mwyn eich cefnogi. Bydd eich amserlen yn cynnig cyfnodau estynedig i gynllunio, ymchwilio ac arsylwi yn ogystal ag amserlen ddysgu.
Edrychwn am unigolion brwdfrydig sydd â gweledigaeth gadarn dros ddatblygu disgyblion yn ddysgwyr annibynnol, hyderus a llwyddiannus. Mae'r cyfle hwn yn agored i geisiadau llawn amser neu ran amser.
Mae'r cynllun hwn wedi'i gefnogi gan Lywodraeth Cymru ac ar gael i ymgeiswyr ar draws Cymru. Neu i rhai sydd am ddychwelyd i ddysgu yng Nghymru neu atharwon sydd am ddychwelyd i'r proffesiwn.
Proses ymgeisio:
Nodwch os gwelwch yn dda NI DDYLID ymgeisio i ysgol yn uniongyrchol. Dylech ymgeisio drwy lenwi'r ffurflen gais sydd wedi ei hatodi a'i dychwelyd i AthrawonCC.WMTeachers@llyw.cymru erbyn y dyddiad cau, sef 23:59 dydd Sul 2ail o Fawrth 2025
Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe - Expression of Interest Form ( Word doc, 28 KB )
Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal yn yr ysgol rhwng 17eg o Fawrth i 28ain o Fawrth 2025.
Anogwn i chi gysylltu â'r ysgol i dderbyn gwybodaeth am y cynllun cyn ymgeisio.
Mae mwy o fanylion am y cyfle hwn ar https://hwb.gov.wales/dysgu-proffesiynol/datblygu-r-gymraeg-yn-eich-ysgol/cynllun-pontio-cynradd-i-uwchradd-cyfrwng-cymraeg/
Os hoffech drefnu ymweliad â'r ysgol neu sgwrs anffurfiol cysylltwch â'r Pennaeth Cynorthwyol Mr Chris Shaw ar 01792560600 neu ar ebost: shawc36@hwbcymru.net
#J-18808-Ljbffr