Mae Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri yng nghalon Parc Cenedlaethol Eryri ac yn atyniad mawr i dwristiaid yng Ngogledd Cymru. Mae ein cynnig, sydd wedi'i anelu'n bendant at y farchnad dwristiaeth, yn sefyll allan fel y gorau yn y dosbarth. Rydym yn gweithredu trenau bob dydd o ddiwedd mis Mawrth i ddiwedd mis Hydref.
Rydym yn chwilio am sawl person i weithio ar ein trenau ar naill ai Rheilffordd Ffestiniog neu Reilffordd Eryri.
Gallwn gynnig i chi:
• Cyflog Byw Cenedlaethol / Isafswm ar gyfer oedran
• Contract tymhorol rhwng 24ain o Mawrth i’r 31ain o Hydref 2025, gyda’r posibilrwydd o estyniad hyd at gychwyn Ionawr 2026
• Sifftiau hyblyg i weddu’r ymgeisydd: o leiaf 2 ddiwrnod yr wythnos, yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau; neu penwythnosau a gwyliau
• Cyfwerth pro rata o 28 diwrnod o wyliau â thâlgan gynnwys yr holl wyliau banc a chyhoeddus
• Ymrestriad i gynllyn pensiwn y cwmni ar ôl cyfnod cymhwyso
• Cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a chynnydd
• Manteision teithio ar Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri a gostyngiadau staff mewn siopau a chaffis
Bydd dyletswyddau allweddol yn cynnwys cyfarch teithwyr, darparu gwybodaeth ac adrodd straeon ffeithiol am y rheilffyrdd, gwerthu arweinlyfrau, a chynorthwyo i darparu ein gwasanaeth moethus yn y dosbarth Aur. Yn ogystal ar wasanaethau Rheilffordd Eryri bydd stiwardiaid yn darparu gwasanaeth lluniaeth troli wrth seddi.
Lleolir y swyddi hyn ym Mhorthmadog, fodd bynnag efallai y gofynnir i aelodau'r tîm weithio o Gaernarfon, Blaenau Ffestiniog neu fannau cychwyn eraill o bryd i'w gilydd.
Bydd gan yr ymgeiswyr llwyddiannus frwdfrydedd dros weithio yn y diwydiannau lletygarwch, arlwyo neu dwristiaeth a pharodrwydd i ddysgu, datblygu a chyfrannu at y tîm. Byddai profiad blaenorol mewn rôl gwasanaeth cwsmeriaid o fantais ond bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu.
Sgiliau Craidd:
• Swydd ‘Blaen Tŷ’ felly bydd sgiliau cyfathrebu da a gwarediad siriol yn bwysig
• Rhaid bod yn daclus ac yn hawdd mynd ato bob amser
• Ymddangosiad smart gan ddilyn côd gwisg
• Gallu cyfathrebu gwybodaeth mewn modd clir a chyfeillgar
• Rhagweithiol a gallu gweithio ar eich menter eich hun
• Rhaid bod yn rhifog, llythrennog ac hefo sgiliau cyfrifiadurol sylfaenol
Mae hon yn ardal Gymraeg ei hiaith yn bennaf ac mae'r Cwmni yn gweithredu polisi dwyieithrwydd. Felly, mae'r gallu i sgwrsio yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swyddi hyn. Mae angen gwybodaeth am leoliadau ar y Rheilffyrdd a'u defnydd gan ymwelwyr ar gyfer y swydd yma, byddai gwybodaeth o Borthmadog a'r cyffiniau yn fanteisiol.
Rhaid i ymgeiswyr fod yn hyblyg ac yn gallu gweithio yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau. Bydd oriau gwaith yn amrywio ac efallai y bydd oriau ar gael i weddu i'r ymgeisydd, gyda hyd at 40 awr yr wythnos ar gael yn ystod tymor prysur yr haf.
Rhaid bod gan ymgeiswyr am y swydd hon yr hawl bresennol i weithio yn y DU.
Proud member of the Disability Confident employer scheme
Disability Confident
About Disability Confident
A Disability Confident employer will generally offer an interview to any applicant that declares they have a disability and meets the minimum criteria for the job as defined by the employer. It is important to note that in certain recruitment situations such as high-volume, seasonal and high-peak times, the employer may wish to limit the overall numbers of interviews offered to both disabled people and non-disabled people. For more details please go to Disability Confident .