Higher Level Teaching Assistant (Level 4) - Ysgol Gymraeg Trefynwy
The ability to speak Welsh is essential for this role. Please see below Welsh job description:
Mae cyfle wedi dod i wneud gwahaniaeth gwirioneddol; y cyfle i fod yn rhan o dîm ymarferydd ysbrydoledig, sy’n angerddol am yr iaith Gymraeg a’i diwylliant ac mewn gwneud gwahaniaeth i brofiadau bywyd plant i gefnogi’r athrawes arweiniol yn y dosbarth cymysg eleni, ac yna arwain dosbarth Meithrin wrth i’r ysgol dyfu.
Posibiliad o secondiad ar gyfer y person cywir.
Mae’r Llywodraethwyr yn chwilio am berson sydd:
1. â disgwyliadau uchel o ran dysgu ac ymddygiad;
2. yn angerddol dros ddatblygu amgylchedd dysgu cadarnhaol sydd yn hybu annibyniaeth pob plentyn;
3. yn ymarferydd ysbrydoledig ac effeithiol gyda phrofiad o gefnogi dysgu disgyblion iau;
4. yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol yn y Gymraeg a'r Saesneg;
5. ag angerdd i sicrhau bod pob plentyn yn llwyddo;
6. yn gallu herio pob plentyn i gyflawni ei orau;
7. yn credu mewn gwelliant parhaus i chi'ch hun fel ffordd o gyflawni'r gorau oll i blant a theuluoedd ein cymuned;
8. yn meddu ar yr egni a’r ymrwymiad i fynd y ‘filltir ychwanegol’;
9. yn gweithio'n dda gyda gweithwyr proffesiynol eraill a chymuned ehangach yr ysgol;
10. yn helpu i lunio dyfodol ein hysgol mewn cytgord ag ethos a gweledigaeth.
You will be taken to an external page to complete your application.
#J-18808-Ljbffr