PRIF SWYDDOG (CLERC Y CYNGOR)
Cyflog: GraddfaLC4 (Pwyntiau 50-54 £62,377 i £70,065) – Disgwylir codiad cyflog o’r 1af Ebrill
AMSER LLAWN (37 AWR YR WYTHNOS)
Mae Cyngor Tref Y Barri wedi ymrwymo i wasanaethu pobl y dref, trwy ddarparu cyfleusterau hanfodol a meithrin datblygiad y gymuned a llesiant ein trigolion. Ni yw’r Cyngor Tref mwyaf yng Nghymru, ac mae gennym 22 o aelodau etholedig, ac fe’n gwasanaethir gan 30 aelod o staff. Mae’r Cyngor yn darparu gwasanaethau mynwent, mae’n rheoli dwy ganolfan gymunedol, llecynnau tir glas, ymgysylltu a digwyddiadau yn y dref.
Wrth inni barhau â’n hymrwymiad i lesiant y gymuned, rydym yn falch o gyhoeddi cyfle ar gyfer gweithiwr proffesiynol ymroddedig i ymuno â’r Cyngor yn Brif Swyddog (Clerc y Cyngor).
Gan weithio o swyddfa’r Cyngor Tref ynghanol Y Barri, bydd angen i ymgeisyddion allu arddangos casgliad deinamig o sgiliau, gan gynnwys y gallu i feddwl a gweithredu’n strategol, yn ogystal â phrofiad o reolaeth weinyddol mewn amgylchedd cymhleth a heriol. Bydd angen ichi allu deall cyfraith a gweithdrefnau llywodraeth leol, meddu ar wybodaeth ariannol gadarn a phrofiad o fod yn rheolydd llinell staff. Byddwch hefyd yn gorfod gallu cynrychioli’r Cyngor yn llwyddiannus mewn trafodaethau gyda chyrff allanol. Mae sgiliau TG ‘Office’ cymwys hefyd yn hanfodol.
Byddwch yn atebol i’r Cyngor yn ei grynswth, a bydd...