Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd. Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda’r brifysgol. Ymgeiswyr Mewnol yn Unig - Cydlynydd Prosiect Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â’r Ganolfan Gofal Cymdeithasol a Dysgu Deallusrwydd Artiffisial (SCALE) a’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg. Ariennir SCALE gan Ymchwil Gofal Iechyd Cymru a chaiff ei lansio ym mis Ebrill 2025 gyda’r nod o harneisio potensial Deallusrwydd Artiffisial i fynd i’r afael â heriau ym maes gofal cymdeithasol i blant ac oedolion. Mae'r Ganolfan yn gydweithrediad gwirioneddol ryngddisgyblaethol rhwng yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol i Blant (CASCADE) a'r Ganolfan Gofal Cymdeithasol i Oedolion (CARE) (y ddwy yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol). Bydd y Cydlynydd Prosiect yn cefnogi'r gwaith o sefydlu a thwf SCALE, gan gydlynu prosiectau ymchwil a gweithgareddau cysylltiedig gyda rhanddeiliaid niferus yn fewnol ac yn allanol i'r sefydliad gan gynnwys cyllidwyr, cyrff llywodraethol, awdurdodau lleol, elusennau, sefydliadau cymorth, gweithwyr gofal proffesiynol, a phobl sydd â phrofiad personol o wasanaethau gofal. Fel Cydlynydd y Prosiect, byddwch yn gweithio'n agos gyda Chyfarwyddwr, Cyd-gyfarwyddwyr a Rheolwr y Ganolfan, ochr yn ochr â Phrif Ymchwilwyr academaidd, ymchwilwyr eraill ac ystod eang o dimau Gwasanaethau Proffesiynol ledled y Brifysgol i gefnogi pob maes o'r elfennau gweinyddol sy'n ymwneud â cheisiadau grant a phrosiectau ymchwil sydd ar waith. Bydd rhan allweddol i'r swydd ei chwarae wrth lansio'r Ganolfan, yn gweithio'n agos gydag ystod eang o gydweithwyr ar draws y Brifysgol i gefnogi cyfeiriadau ymchwil newydd cyffrous sy'n cael effaith yn y byd real a datblygu prosesau gwasanaeth proffesiynol priodol ar gyfer y Ganolfan. Bydd y broses o lunio rhestr fer yn edrych ar sut mae ymgeiswyr yn gallu darparu tystiolaeth o fodloni'r meini prawf hanfodol (a dymunol) yn eu cais. Fel y disgrifir yn fanylach yn ddiweddarach yn yr hysbyseb, sicrhewch eich bod yn atodi datganiad ategol sy'n dangos sut rydych chi'n cyfateb i fanyleb yr unigolyn, neu'n meddu ar y sgiliau trosglwyddadwy priodol i allu gweithio o fewn y swydd. Mae'r swydd yn un llawn amser (35 awr yr wythnos) o 1 Ebrill 2025 tan 31 Mawrth 2028. Cyflog: £33,482 y flwyddyn (Gradd 5), i ddechrau gyda thair cynyddran flynyddol hyd at £36,130 y flwyddyn ar frig y raddfa. I gael trafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â’r Athro Stuart Allen (Cyfarwyddwr y Ganolfan, AllenSMcaerdydd.ac.uk) neu Jo Parry (Rheolwr Canolfan CASCADE, ParryJ7caerdydd.ac.uk ) Gellir anfon ymholiadau anffurfiol am y broses recriwtio/ymgeisio at Simon Hogg, Gweinyddwr AD – COMSC-HRcaerdydd.ac.uk. Mae gan Brifysgol Caerdydd Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg lwyddiannus sydd ag enw da yn rhyngwladol am addysgu a gweithgareddau ymchwil. Mae cyd-destun ymchwil yr Ysgol wedi newid yn llwyr a bellach mae'r Ysgol bron wedi dyblu o ran maint. Rydym wedi symud i adeilad pwrpasol newydd gwerth £39 miliwn o'r enw Abacws, a rennir gyda’r Ysgol Mathemateg, ac a gynlluniwyd i hwyluso rhyngweithio rhwng disgyblaethau a rhoi rhyddid newydd i grwpiau ymchwil ddatblygu diwylliant ymchwil a meithrin hunaniaeth. Bydd staff SCALE yn gweithio ym Mharc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK) ac Abacws. Rydym ni’n Ysgol a arweinir gan ymchwil sydd ag enw da hirsefydlog yn rhyngwladol am weithgareddau ymchwil gymhwysol. Rydym ni hefyd yn cydweithio â thros 100 o bartneriaid academaidd a diwydiannol yn y DU ac yn rhyngwladol. Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021, graddiwyd 96% o'r ymchwil a gyflwynwyd gennym ymhlith y gorau yn y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol. Mae’r Ysgol yn cynnig amrywiaeth gyffrous o raddau BSc ac MSc yn ogystal â graddau ymchwil sy’n arwain at gymwysterau MPhil a PhD. Cewch ragor o wybodaeth am yr Ysgol yma: http://www.caerdydd.ac.uk/computer-science Mae croeso i ymgeiswyr mewnol wneud cais am y rôl hon fel secondiad gyda chymeradwyaeth eu rheolwr llinell presennol. Dyddiad cau: Dydd Mawrth, 22 Ebrill 2025 Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion. Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg. Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Diben y Swydd Caiff y Ganolfan Gofal Cymdeithasol a Dysgu Deallusrwydd Artiffisial (SCALE) ei lansio ym mis Ebrill 2025 gyda’r nod o harneisio potensial Deallusrwydd Artiffisial i fynd i’r afael â heriau ym maes gofal cymdeithasol i blant ac oedolion. Mae'r Ganolfan yn gydweithrediad gwirioneddol ryngddisgyblaethol rhwng yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol i Blant (CASCADE) a'r Ganolfan Gofal Cymdeithasol i Oedolion (CARE) (y ddwy yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol). Bydd y Cydlynydd Prosiect yn gweithio'n agos gyda Chyfarwyddwr, Cyd-gyfarwyddwyr a Rheolwr y Ganolfan, ochr yn ochr â Phrif Ymchwilwyr academaidd, ymchwilwyr eraill ac ystod eang o dimau Gwasanaethau Proffesiynol ledled y Brifysgol i gefnogi pob maes o'r elfennau gweinyddol sy'n ymwneud â cheisiadau grant a phrosiectau ymchwil sydd ar waith. Bydd rhan allweddol i'r swydd ei chwarae wrth lansio'r Ganolfan, yn gweithio'n agos gydag ystod eang o gydweithwyr ar draws y Brifysgol i ddatblygu prosesau gwasanaeth proffesiynol priodol ar gyfer y Ganolfan. Bydd hyn yn cynnwys gweinyddiaeth Cyllid ac AD yn ogystal â rheolaeth weinyddol a gweithgareddau cyfathrebu. Bydd Cydlynydd y Prosiect yn cefnogi'r gwaith o sefydlu a thwf y ganolfan ymchwil, gan gydlynu prosiectau ymchwil a gweithgareddau cysylltiedig gyda rhanddeiliaid niferus yn fewnol ac yn allanol i'r sefydliad gan gynnwys cyllidwyr, cyrff llywodraethol, awdurdodau lleol, elusennau, sefydliadau cymorth, gweithwyr gofal proffesiynol, a phobl sydd â phrofiad personol o wasanaethau gofal. Dyletswyddau a Chyfrifoldebau Prif Ddyletswyddau Rhoi cyngor ac arweiniad proffesiynol yng nghyswllt gweithgareddau ymchwil yn SCALE i gwsmeriaid mewnol ac allanol, gan ddefnyddio synnwyr cyffredin a chreadigrwydd wrth awgrymu'r camau gweithredu gorau lle bo'n briodol, a gwneud yn siŵr bod materion cymhleth a chysyniadol yn cael eu deall. Ymchwilio a dadansoddi materion penodol o fewn SCALE, gan greu adroddiadau gydag argymhellion yn seiliedig ar ddatblygiadau mewn Gofal Cymdeithasol ac AI i gefnogi gweithgareddau ymchwil a sicrhau bod allbynnau ymchwil, cydweithrediadau ac ymgysylltu â rhanddeiliaid yn cael eu cofnodi'n gywir. Gofalu bod cymorth i'r gweithgaredd ymchwil yn cael ei gyflwyno i'r sefydliad, a mynd ati i newid trefniadau yn ôl gofynion y cwsmeriaid. Cydweithio ag eraill i wneud argymhellion ar gyfer datblygu prosesau a gweithdrefnau sefydledig gyda ffocws ar baratoi a chyflwyno ceisiadau am gyllid ac adroddiadau prosiect. Sefydlu perthynas waith â phwyntiau cyswllt allweddol, gan ddatblygu cysylltiadau cyfathrebu priodol ag Ysgolion/Cyfarwyddiaethau'r Brifysgol a chyrff allanol yn ôl yr angen. Creu gweithgorau penodol sy'n cynnwys cydweithwyr ar draws y Brifysgol i gyflawni amcanion yr ysgol/adran. Goruchwylio timau prosiect penodol yn achlysurol er mwyn cyflawni amcanion allweddol Datblygu a chyflwyno hyfforddiant o fewn SCALE, gan arwain mentrau i feithrin diwylliant ymchwil rhyngddisgyblaethol deniadol, cynhwysol a deinamig, ac annog cyfranogiad yr ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg a CASCADE/CARE. Ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol i gefnogi'r adran, yn amrywio o gefnogaeth glerigol, gweinyddiaeth ariannol a gweithgareddau marchnata o fewn SCALE. Cyfarwyddo ac arwain gweithwyr eraill ar draws y brifysgol mewn perthynas â SCALE. Dyletswyddau Cyffredinol Gofalu eich bod yn deall pwysigrwydd cyfrinachedd wrth gyflawni pob dyletswydd. Glynu wrth bolisïau’r Brifysgol o ran Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth. Cyflawni dyletswyddau eraill yn achlysurol, nad ydynt wedi'u cynnwys uchod ond sy'n cyd-fynd â'r rôl. MANYLEB YR UNIGOLYN Rydym yn awyddus i gyflogi pobl sydd ag ystod eang o brofiadau. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn arbennig o awyddus i gael ceisiadau gan bobl o gefndiroedd nad ydyn nhw wedi’u cynrychioli’n ddigonol yn y Brifysgol, gan gynnwys pobl o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Rydym yn chwilio am rywun sy'n gweithio’n rhan o dîm ac a fydd yn gweithio gyda chydweithwyr i roi gwasanaeth gwych i’r staff a’r myfyrwyr. Nid oes gofyn ichi fod wedi gweithio i brifysgol o'r blaen; dyma gyfle i ddangos eich potensial a dechrau neu barhau â'ch gyrfa ym Mhrifysgol Caerdydd. Hwyrach y bydd y swydd hon yn gyfle ichi ehangu eich profiad o weithio mewn rôl neu gyd-destun gweinyddol blaenorol, gyda diddordeb penodol mewn Rhaglenni Ôl-raddedig a Addysgir, gan ddangos eich sgiliau trosglwyddadwy a'ch gallu i fod yn llwyddiannus yn y swydd. Dylech fod yn frwdfrydig dros ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau i fod yn aelod gwerthfawr o'r tîm. Bydd eich cais yn cael ei asesu yn unol â’r meini prawf hanfodol a dymunol canlynol ar gyfer y swydd. Ar ôl copïo’r adran hon a’i chludo i ddogfen newydd, rhowch enghreifftiau clir sy’n dangos sut rydych yn bodloni pob maen prawf, a hynny drwy ysgrifennu o dan bob un. Cewch gyfeirio at elfennau o unrhyw agwedd ar eich bywyd (e.e. gwaith, cartref, addysg/cymwysterau neu fywyd cymunedol), cyn belled â'ch bod yn canolbwyntio ar eu perthnasedd i'r swydd. Dylech gadw eich datganiad ategol mewn dogfen ar wahân sy’n dwyn y teitl [EICH ENW-RHIF BR-TEITL Y SWYDD] a'i atodi wrth eich cais yn y system recriwtio. Sylwer mai dyma'r meini prawf a ddefnyddir i asesu ymgeiswyr y rhestr fer mewn cyfweliad a/neu drwy ddulliau eraill (e.e. prawf sgiliau). Meini Prawf Hanfodol Cymwysterau ac Addysg Gradd/NVQ Lefel 4, neu brofiad/aelodaeth broffesiynol gyfatebol Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad Profiad sylweddol o gydlynu prosiectau ymchwil cymhleth a/neu niferus. Gallu dangos gwybodaeth arbenigol am gydlynu prosiectau a'r gallu i roi cyngor ac arweiniad i gydweithwyr mewnol ac allanol. Gallu sefydlu systemau swyddfa safonol a phrofiad o ddatblygu a gwella prosesau. Gwasanaeth Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Gweithio’n Rhan o Dîm Gallu cyfleu gwybodaeth gysyniadol fanwl a chymhleth yn effeithiol ac yn broffesiynol gydag amrywiaeth eang o bobl, gan gynnwys cyrff cyllido, ymchwilwyr a'r cyhoedd. Gallu archwilio anghenion cydweithwyr a rhanddeiliaid ac addasu'n unol â hynny i sicrhau gwasanaeth o safon. Cynllunio, Dadansoddi a Datrys Problemau 7. Tystiolaeth o’r gallu i ddatrys problemau cymhleth drwy gymryd y cam cyntaf a bod yn greadigol, gan gynnwys nodi a chynnig atebion ymarferol a datrys problemau sydd ag ystod o ganlyniadau posibl. 8. Tystiolaeth o wybodaeth amlwg am ddatblygiadau allweddol mewn rheoli prosiectau a chefnogi gweithgareddau ymchwil. 9. Tystiolaeth o’r gallu i weithio heb oruchwyliaeth yn unol â therfynau amser, gan bennu blaenoriaethau a monitro cynnydd eich gwaith eich hun ac eraill. Arall 10. Parodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant a datblygu pellach. Meini Prawf Dymunol Cymhwyster Ôl-raddedig/Proffesiynol Profiad o weithio ym maes Addysg Uwch Profiad o gynorthwyo i ddatblygu ceisiadau am arian neu dendrau Profiad o reoli cyllidebau a/neu fonitro gwariant Gwybodaeth am y ddarpariaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru Rhugl yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar