Contract Type Permanent Working Pattern Full time Working Hours 35 hours per week Salary £70,000 - £80,000 depending on knowledge, skills and experience Location Options Hybrid - home based and Cardiff Function Type Legal
Rydym yn chwilio am gyfreithiwr medrus a rheolwr pobl profiadol, i arwain ein Tîm Cynghori Cwnsleriaid Cyffredinol.
Y rôl
Mae'r Tîm Cynghori Cwnsleriaid Cyffredinol yn rhan o Gyfarwyddiaeth Cwnsleriaid Cyffredinol yr SRA. Mae'r Gyfarwyddiaeth yn chwarae rhan allweddol wrth yrru diwygiadau rheoleiddiol strategol yn y farchnad gwasanaethau cyfreithiol er mwyn cyflawni amcanion yr SRA, gan ddarparu cyngor cadarn ar ddehongli a diwygio deddfwriaeth.
Fel Pennaeth Cyfraith – Tîm Cynghori Cwnsleriaid Cyffredinol, chi fydd yn gyfrifol am gyfarwyddyd a rheolaeth lwyddiannus y tîm sy'n gyfrifol am ddarparu cyngor a chymorth cyfreithiol o ansawdd uchel i'r SRA ar feysydd datblygu polisi, llywodraethu, adnoddau dynol, caffael a materion cydymffurfio. Bydd galw arnoch yn gyson i ddarparu cyngor ar feysydd newydd proffil uchel a byddwch yn gyffyrddus yn ymateb yn gyflym ac yn ofalus. Mae'r rôl yn rhoi cyfle ichi weithio'n annibynnol a chefnogi gwaith mewn meysydd sy'n datblygu ac yn uchel eu proffil, er enghraifft ein Hadolygiad Diogelu Defnyddwyr. Darllenwch ragor am bynciau llosg i’r SRA ar hyn o bryd .
Mae hon yn swydd lle byddwch yn gallu dangos eich sgiliau arwain a’ch sgiliau rheoli rhanddeiliaid, ynghyd â'ch craffter a'ch arbenigedd cyfreithiol.
Beth sydd ar gael i chi
1. Gweithio i reoleiddiwr cyfreithiol blaengar ar adeg gyffrous
2. Arwain tîm o gyfreithwyr i ddarparu cyngor cyfreithiol o ansawdd uchel mewn ystod eang o feysydd
3. Dangos eich barn broffesiynol a'ch gwybodaeth gyfreithiol arbenigol
Yr hyn rydyn ni’n chwilio amdano
4. Cyfreithiwr neu fargyfreithiwr cymwysedig, neu gyfreithiwr CILEX, sydd wedi’i dderbyn yng Nghymru a Lloegr ac sydd â rhinweddau personol a champau gyrfa cryf
5. Profiad arwyddocaol yn y gyfraith gyhoeddus a/neu’r gyfraith reoleiddiol
6. Profiad o arwain a rheoli cyfreithwyr, gan eu sbarduno i gyflawni canlyniadau o safon
7. Profiad o wneud penderfyniadau o ansawdd uchel ar sail cyngor cyfreithiol cadarn – yn bersonol ac ar ran tîm – mewn amgylchedd rheoleiddio gan gynnwys materion proffil uchel a sensitif
8. Profiad o weithio mewn amgylchedd cyflym lle mae penderfyniadau’n cael eu gwneud yn gyflym
9. Sgiliau rhyngbersonol datblygedig iawn ynghyd â phrofiad o sefydlu a chynnal perthnasoedd effeithiol a gweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid mewnol ac allanol
Dydyn ni ddim yn pennu profiad ar ôl cymhwyso ar gyfer unrhyw un o'n swyddi gwag ond rydyn ni’n rhag-weld y bydd y cyfle yma yn addas i rywun sy'n gweithredu ar lefel Uwch Gydymaith neu Bartner (neu lefel gyfwerth).
Gwybodaeth ddefnyddiol ac ychwanegol
Mae Proffil Rôl ynghlwm ar waelod yr hysbyseb ar ein gwefan.
Gall y swydd gael ei lleoli yn ein swyddfa yn Birmingham, Caerdydd neu Lundain. Rydyn ni’n gweithredu ar fodel gweithio hybrid sy'n golygu gweithio dau ddiwrnod yr wythnos yn y swyddfa, a gweddill yr wythnos gartref. Mae gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn swyddfa Birmingham un diwrnod yr wythnos gan mai yn Birmingham y mae’r tîm a'r rhanddeiliaid wedi'u lleoli yn bennaf. Mae cyflog cychwynnol y swydd yma rhwng £70,000 ac £80,000 gan ddibynnu ar wybodaeth, sgiliau a phrofiad perthnasol. I'r rhai sy'n gymwys, bydd 10% ychwanegol o bwysoliad Llundain yn gymwys (ystod cyflog o £77,000 i £88,000).
Os oes gennych unrhyw gwestiynau sydd heb eu hateb yn yr hysbyseb neu ar ein gwefan, neu os hoffech gael sgwrs gyfrinachol, gallwch gysylltu â ni drwy: .
I wneud cais
Cliciwch ar 'apply’ i lenwi'r ffurflen gais ar-lein ac uwchlwytho CV a llythyr eglurhaol, gan fynd i'r afael â sut rydych chi’n bodloni gofynion y rôl. Ni ddylai'r llythyr eglurhaol fod yn fwy na dau dudalen.
I gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio a dethol a sut i wneud y gorau o'ch cais, ewch i'n .
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 17 Chwefror am 10:00 am. Disgwylir i’r cyfweliadau gael eu cynnal yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 24 Chwefror, yn bersonol ac yn ein swyddfa yn naill ai Birmingham neu Lundain.
#polisicyfreithiol #pennaethcyfraith
We are looking for an accomplished lawyer and experienced people manager, to lead our General Counsel Advice Team.
The role
The General Counsel Advice Team is part of the General Counsel Directorate of the SRA. The Directorate plays a key role in driving forward strategic regulatory reform of the legal services market to meet the SRA’s objectives, providing sound advice on legislative interpretation and reform.
As Head of Legal - General Counsel Advice Team, you will be responsible for the successful direction and management of the team responsible for providing high quality legal advice and support to the SRA on areas of policy development, governance, HR, procurement and compliance issues. You will be called upon regularly to provide advice on high profile novel areas and will be comfortable responding at pace and with consideration. The role gives you the opportunity to work independently and support work in evolving and high-profile areas of work, for example our Consumer Protection Review. Read more about hot topics for the SRA currently .
This is a position where you will be able to demonstrate your leadership and stakeholder management skills, along with your legal acumen and expertise.
What’s in it for you
10. Work for a cutting-edge legal regulator at an exciting time
11. Lead a team of lawyers to deliver high quality legal advice in broad range of areas
12. Demonstrate your expert professional judgment and legal knowledge
13. Qualified solicitor or barrister, or CILEX lawyer, admitted in England & Wales of strong personal qualities and career achievements
14. Significant experience in public and/or regulatory law
15. Experience of leading and managing lawyers, motivating them to deliver high quality outcomes.
16. Experience of high-quality decision making underpinned by solid legal advice – personally and on behalf of a team - in a regulatory environment including high profile and sensitive matters
17. Experience of working in a fast-paced environment where decisions are made quickly
18. Highly developed interpersonal skills combined with experience of establishing and maintaining effective relationships and working with a range of internal and external stakeholders
We do not specify PQE for any of our vacancies but anticipate that this opportunity will suit someone operating at Senior Associate or Partner level (or equivalent).