His Majesty’s Inspector of Education and Training (HMI)
We are looking for the brightest and best leaders from all backgrounds to join us in achieving excellence for all learners in Wales. The role of an His Majesty’s Inspector (HMI) is an exciting and varied one that gives you a unique view of education and training in Wales.
Our HMI come from a diverse range of leadership backgrounds in education and training. Whatever path your career has taken so far, you will have a strong track record of improvement with experience of innovating at a strategic level. You will also understand the wider education and training landscape and the role that inspection plays as a force for improvement.
You may for example, be:
* a senior leader in a secondary school or secondary senior leader in an all-age school
* a director/assistant director of a school improvement service or a school improvement partner
* a service area lead in an education directorate of a local authority
* a quality manager or leader in a work-based learning apprenticeship provider
* a vice-principal or director of learning in a further education college
* a principal youth officer or leader in a voluntary youth work provider
For this recruitment we are looking for people with a background in:
* Secondary education
* Post-16/Further education colleges
* Local Government Education Services
* Youth work
Salary: £70,455 – £82,425 (pay award pending).
Duration: Permanent
Welsh Language: Welsh language skills are essential for the Post-16/Further education colleges post. Welsh language skills are desirable for all other posts.
Location: We are based in Cardiff and our Inspectors are home-based. Our work is predominantly undertaken within Wales.
Driving licence and use of a car: Due to the requirement for frequent travel across Wales, you should have a current driving licence and the use of a car or the ability to make suitable alternative transport arrangements.
Work hours: Our normal work hours are 37 hours over a five-day week (Monday to Friday), excluding lunch. This role requires frequent travel all over Wales and a regular need to be able to stay away from home for up to four nights at a time. We welcome applications for part-time/reduced hours, job sharing or on another flexible basis.
Deadline to apply: 10am on 07 January 2025
Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant (AEF)
Rydym yn chwilio am rai o’r arweinwyr disgleiriaf a gorau o bob cefndir i ymuno â ni i gyflawni rhagoriaeth i bob dysgwr yng Nghymru. Mae rôl Arolygydd Ei Fawrhydi (AEF) yn un gyffrous ac amrywiol sy’n rhoi golwg unigryw i chi ar addysg a hyfforddiant yng Nghymru.
Daw ein AEF o ystod amrywiol o gefndiroedd arwain mewn addysg a hyfforddiant. Pa lwybr bynnag y mae eich gyrfa wedi’i ddilyn hyd yma, bydd gennych hanes cryf o welliant gyda phrofiad o arloesi ar lefel strategol. Byddwch chi hefyd yn deall y tirlun addysg a hyfforddiant ehangach a rôl arolygu fel grym ar gyfer gwella.
Gallwch, er enghraifft, fod yn:
* uwch arweinydd mewn ysgol uwchradd neu’n uwch arweinydd uwchradd mewn ysgol bob oed
* cyfarwyddwr / cyfarwyddwr cynorthwyol gwasanaeth gwella ysgolion neu bartner gwella ysgolion
* arweinydd maes gwasanaeth mewn cyfarwyddiaeth addysg awdurdod lleol
* rheolwr neu’n arweinydd ansawdd mewn darparwr prentisiaethau dysgu yn y gwaith
* is-bennaeth neu’n gyfarwyddwr dysgu mewn coleg addysg bellach
* prif swyddog neu’n arweinydd ieuenctid mewn darparwr gwaith ieuenctid gwirfoddol
Ar gyfer y rownd recriwtio hwn, rydym yn chwilio am bobl sydd â chefndir mewn:
* Addysg uwchradd
* Colegau ôl-16/Addysg bellach
* Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol
* Gwaith ieuenctid
Cyflog : £70,455 – £82,425 (codiad cyflog yn yr arfaeth).
Hyd : Parhaol
Y Gymraeg:. Mae medrau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd colegau ôl-16 / colegau addysg bellach. Mae medrau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer yr holl swyddi eraill.
Lleoliad: Mae ein prif swyddfa yng Nghaerdydd ac mae ein Harolygwyr yn gweithio o gartref. Mae ein gwaith yn cael ei wneud yng Nghymru.
Trwydded yrru a defnydd o gar: Yn sgil y gofyniad i deithio’n fynych ledled Cymru, dylai fod trwydded yrru gyfredol gennych, a defnydd o gar neu’r gallu i wneud trefniadau teithio amgen addas.
Oriau gwaith: Ein horiau gwaith arferol yw 37 awr yr wythnos dros wythnos bum niwrnod (Llun i Gwener), heb gynnwys cinio. Mae’r rôl hon yn gofyn am deithio’n fynych ledled Cymru, a’r angen i aros i ffwrdd o gartref yn rheolaidd am hyd at bedair noson ar y tro. Rydym yn croesawu ceisiadau am oriau rhan-amser/gostyngol, rhannu swydd neu sail hyblyg arall.