Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Prif Swyddog Ariannol
Tâl cydnabyddiaeth cystadleuol
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn sefydliad blaengar ac uchelgeisiol, yn brifysgol fodern flaenllaw gyda phroffil dysgu, addysgu, ymchwil ac arloesi unigryw ar draws ystod eang o ddisgyblaethau creadigol, chwaraeon, iechyd, addysg, technoleg, gwyddorau cymdeithasol a bywyd, a busnes. Yn dilyn penodiad Llywydd ac Is-Ganghellor newydd, yr Athro Rachael Langford, ym mis Ionawr 2024, mae'r Brifysgol wedi adnewyddu ffocws a blaenoriaethau ei gweledigaeth a chenhadaeth ei Strategaeth 2030.
Daw ysbrydoliaeth Prifysgol Metropolitan Caerdydd o dros 150 mlynedd o ymrwymiad i addysg fel grym er daioni ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd a thu hwnt. Gyda dros 12,000 o fyfyrwyr ar draws dau gampws bywiog yng Nghaerdydd a 18,000 yn fwy o ddysgwyr yn astudio trwy 12 partner rhyngwladol, mae ein cymuned o 30,000 o bobl yn wirioneddol fyd-eang ac wedi ei huno gan ein hymrwymiad cyffredin i ddatblygu diwylliant o urddas a pharch at bawb wrth weithio ac astudio. Rydym yn falch o fod yn Brifysgol Noddfa gyntaf Cymru, daliwr Gwobr Sefydliadol Arian Athena Swan, a'r brifysgol orau yng Nghymru yng Nghynghrair People and Planet 23/24.
Mae Ysgol Gelf a Dylunio’r Brifysgol yn un o'r Ysgolion Celf hynaf yn y DU a'r ysgol gelf a dylunio fwyaf yng Nghymru, ac ymysg y 3 gorau yn REF2021 am effaith ymchwil ei staff. Mae ein Hysgol Dechnolegau ...